Manylion
13/06/2026
9:00 am - 4:00 pm
The Conference Centre, CF24 5RR.
Cwrs yn cael ei redeg gan
AjudaYnglŷn â’r cwrs
Dydd Sadwrn 13 June 2026
Mae’r cymhwyster rheoledig hwn wedi’i gynllunio i ddarparu’r wybodaeth a’r sgiliau sylfaenol hanfodol i weithio yn y diwydiant bwyd.
Mae’n cydymffurfio’n llawn â safonau diwydiant a rheoleiddio. Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd o’r farn bod y pynciau a drafodir yn bwysig er mwyn cynnal arferion da wrth gynhyrchu a thrin bwyd diogel.
Bydd y cwrs yn addas i ystod amrywiol o ddysgwyr gan gynnwys oedolion, ysgolion, grwpiau cymunedol a busnesau ac ati sy’n gweithio yn y diwydiant arlwyo neu’n bwriadu gweithio ynddo, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â storio, paratoi, coginio a thrin bwyd.
Erbyn diwedd y cwrs bydd gan y cynrychiolwyr ddealltwriaeth glir o bwysigrwydd sicrhau hylendid bwyd priodol yn y gweithle.
Archebu
Ar gyfer cadw lle a phob ymholiad arall anfonwch e-bost atom yn datblygurgweithlu@caerdydd.gov.uk
Sylwer na ddarperir cinio ar unrhyw un o’r cyrsiau. Mae oergelloedd, tegelli a ffyrnau microdon ar gael os hoffech chi ddod â chinio gyda chi. Darperir te, coffi a bisgedi yn rhad ac am ddim.
