Manylion
09/05/2026 - 16/05/2026
9:30 am - 4:30 pm
New Pathways, 19 St. Andrew's Crescent, CF10 3DB.
Cwrs yn cael ei redeg gan
New PathwaysYnglŷn â’r cwrs
Dydd Sadwrn 9 Mai a Dydd Sadwrn 16 Mai 2026
Sylwer: Disgwylir i’r holl gyfranogwyr wybod popeth yng Ngrwpiau A a B eisoes.
Nod: Nod y cwrs lefel uwch 2 ddiwrnod hwn yw sicrhau bod cyfranogwyr yn gallu gwneud penderfyniadau a chynghori eraill ar gadw plant yn ddiogel, a rhoi prosesau amddiffyn ar waith, gan gynnwys cymryd rhan mewn cyfarfodydd Strategaeth, Ymholiadau A47, a Chynadleddau Amddiffyn Plant.
Amcanion Dysgu Allweddol:
• Rwy’n deall bod rhoi llais a rheolaeth i bobl yn rhan hanfodol o wneud penderfyniadau – ymarfer sy’n canolbwyntio ar y plentyn
• Rwy’n deall rolau a chyfrifoldebau pawb yn y broses ddiogelu
• Mae gennyf y gallu i wneud penderfyniadau clir a chymesur.
I gael rhestr lawn o’r holl ddeilliannau dysgu ewch i: https://gofalcymdeithasol.cymru/adnoddau-canllawiau/diogelu-rhestr/safonau-hyfforddiant-dysgu-a-datblygu-cenedlaethol/safonau-diogelu-grwp-c
Archebu
Ar gyfer cadw lle a phob ymholiad arall anfonwch e-bost atom yn datblygurgweithlu@caerdydd.gov.uk
Sylwer na ddarperir cinio ar unrhyw un o’r cyrsiau. Mae oergelloedd, tegelli a ffyrnau microdon ar gael os hoffech chi ddod â chinio gyda chi. Darperir te, coffi a bisgedi yn rhad ac am ddim.
