Manylion
04/07/2026
9:30 am - 2:00 pm
Early Years Wales.
Cwrs yn cael ei redeg gan
Early Years WalesYnglŷn â’r cwrs
Mae’r hyfforddiant wyneb yn wyneb hwn wedi’i anelu at arweinwyr ystafell babanod/plentyn bach. Mae’n canolbwyntio ar symudiad a lles plant o 0 – 18 mis oed gan edrych ar ddatblygiad a ffyrdd y gallwn gefnogi a meithrin nid yn unig y babanod yn ein gofal, ond hefyd gweithgaredd corfforol a lles yr oedolion sy’n gofalu amdanynt ac yn eu haddysgu.
Mae’r pynciau’n cynnwys:
Meithrin datblygiad corfforol
Canllawiau gweithgaredd corfforol
Chwarae llawr (chwarae bol, ochr a chefn)
Diddordebau corff a symudiad
Y synhwyrau
Croesi’r llinellau canol
Sgyrsiau symudiad
Symudiad a gorffwys ysgogiad isel.
Mae cwrs y Plant Bach Egnïol yn dilyn o 18 mis oed i 3 oed ac yn rhoi cyfleoedd i ymarferwyr roi profiadau corff cyfan i’r plant bach yn eu gofal ac amgylchedd sy’n hyrwyddo chwarae symud digymell penagored sy’n anelu at anghenion symudiad y plentyn unigol. Mae’r pynciau’n cynnwys:
Meithrin taith llythrennedd corfforol plant bach
Archwilio cyfleoedd symud gyda phlant bach ar wahanol gamau o’u taith llythrennedd corfforol
Archwilio proprioception a rholio gyda phlant bach
Archwilio croesi’r llinell ganol a pham mae cropian yn dal i fod yn weithred bwysig i blant bach
Archwilio’r system festibwlaidd trwy gamu i fyny ac i lawr a chicio.
Archebu
Ar gyfer cadw lle a phob ymholiad arall anfonwch e-bost atom yn datblygurgweithlu@caerdydd.gov.uk
Sylwer na ddarperir cinio ar unrhyw un o’r cyrsiau. Mae oergelloedd, tegelli a ffyrnau microdon ar gael os hoffech chi ddod â chinio gyda chi. Darperir te, coffi a bisgedi yn rhad ac am ddim.
