Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y byddwch yn gymwys i gael help gyda chostau gofal plant. Ond, gall fod yn anodd gweithio allan pa gymorth y gallech efallai ei gael.

Mae dau fath o gymorth:

  • helpu tuag at gostau rydych yn talu amdanynt, a
  • lleoliadau gofal plant wedi’u hariannu.

Cymorth tuag at gostau rydych yn talu amdanynt

Gallwch ddefnyddio’r wefan Dewisiadau Gofal Plant i’ch helpu i ddod o hyd i’r cynnig iawn i chi. Bydd yn dweud wrthych os ydych yn gymwys i gael:

Efallai y byddwch yn gymwys i gael Gofal Plant Rhydd o Dreth os ydych yn deulu sy’n gweithio, a bod pob rhiant neu ofalwr yn ennill dros £183.04 yr wythnos ond llai na £100,000 y flwyddyn. Gallech gael hyd at £2,000 y plentyn y flwyddyn.

Os ydych chi’n rhiant sengl neu’n ofalwr, mae’r un meini prawf yn berthnasol.

Bydd angen i’r lleoliad gofal plant fod wedi ei gofrestru.

Ni allwch hawlio Gofal Plant Rhydd o Dreth os ydych eisoes yn hawlio:

  • credydau treth,
  • Credyd Cynhwysol, neu
  • dalebau gofal plant

Fodd bynnag, efallai y byddwch yn gymwys os oes un rhiant yn gweithio, a’r llall yn hawlio budd-daliadau penodol, fel:

  • budd-dal analluogrwydd,
  • lwfans anabledd difrifol, neu
  • lwfans gofalwr.

Dysgwch fwy am Ofal Plant Rhydd o Dreth.

Gallwch hawlio hyd at 85% o’ch costau gofal plant os ydych yn rhiant sy’n gweithio neu’n ofalwr ar Gredyd Cynhwysol. Gallech gael:

  • hyd at £951 y mis ar gyfer 1 plentyn, neu
  • hyd at £1,630 y mis ar gyfer 2 blentyn neu fwy.

Os ydych yn gymwys, efallai y gallech gael help gyda’r costau ymlaen llaw, fel ei bod yn haws talu’r set nesaf o gostau.

Os ydych yn dechrau gweithio neu’n cynyddu eich oriau gwaith, siaradwch â’ch anogwr gwaith Credyd Cynhwysol a all roi mwy o wybodaeth i chi.  Mae’n rhaid i chi fod mewn gwaith cyflogedig i gael cymorth gofal plant gan Gredyd Cynhwysol.

Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol gyda phartner, fel arfer, mae’n rhaid i’r ddau ohonoch fod mewn gwaith i gael yr help hwn.  Fodd bynnag, efallai y byddwch yn gallu cael cymorth gofal plant os nad yw 1 ohonoch yn gweithio ac na allwch ddarparu gofal plant eich hunain oherwydd eu bod:

  • â gallu cyfyngedig i weithio
  • â chyfrifoldebau gofalu am berson ag anabledd difrifol, neu
  • yn absennol dros dro o’r cartref.

Ni allwch hawlio Credyd Cynhwysol am ofal plant os ydych eisoes yn hawlio:

  • credydau treth.
  • Gofal Plant Rhydd o Dreth, neu
  • dalebau gofal plant

Gallwch ddarganfod mwy am Gredyd Cynhwysol ar gyfer gofal plant.

Efallai eich bod yn gymwys i gael y Cynnig Gofal Plant Cymru (y Cynnig), os oes gennych blentyn 3 i 4 oed a bod y ddau riant neu ofalwyr mewn teulu 2 riant yn:

  • gweithio ac yn ennill uwch law’r hyn sy’n cyfateb i 16 awr ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ond yn llai na £100,000 y flwyddyn, neu
  • ar gwrs Addysg Uwch neu Bellach.

Efallai y byddwch hefyd yn gymwys os yw un rhiant yn bodloni’r meini prawf uchod, a bod y llall yn derbyn budd-dal cymwys, fel:

  • budd-dal analluogrwydd
  • lwfans anabledd difrifol, neu
  • lwfans gofalwr.

Os ydych chi’n rhiant sengl neu’n ofalwr, efallai y byddwch yn gymwys os ydych yn:

  • gweithio ac yn ennill uwch law’r hyn sy’n cyfateb i 16 awr ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ond yn llai na £100,000 y flwyddyn, neu
  • ar gwrs Addysg Uwch neu Bellach.

Bydd angen i’ch plentyn fynd i leoliad dynodedig.

Nid yw’r Cynnig yn talu costau bwyd, lluniaeth na theithio, nac unrhyw ofal plant ychwanegol.

Gallwch ddysgu mwy yma am Gynnig Gofal Plant Cymru.

Dechrau’n Deg yw rhaglen Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru wedi’i dargedu at deuluoedd â phlant dan 4 oed yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

Mae’r gofal plant a ariennir yn darparu 2.5 awr o ofal plant o ansawdd uchel bob dydd, 5 diwrnod yr wythnos am 39 wythnos o’r flwyddyn, yn ystod tymor ysgol i blant 2-3 oed.

Mae gofal plant Dechrau’n Deg ond yn cael ei ddarparu mewn lleoliadau dynodedig. Mae’r gofal plant yn cael ei fonitro a’i gefnogi gan athrawon a llawer o weithwyr proffesiynol eraill i sicrhau bod y plant yn cael gofal o ansawdd uchel.

Yn dibynnu ar eich cod post, efallai y byddwch yn gymwys. Nid oes unrhyw ofynion cyflogaeth nac incwm.

Gallwch ddarganfod mwy a gwirio a ydych yn gymwys i gael Gofal Plant Dechrau’n Deg.