{"id":8687,"date":"2026-01-23T10:25:52","date_gmt":"2026-01-23T10:25:52","guid":{"rendered":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/?page_id=8687"},"modified":"2026-01-23T10:25:52","modified_gmt":"2026-01-23T10:25:52","slug":"iechyd-a-lles","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/rhieni-a-gofalwyr\/iechyd-a-lles\/","title":{"rendered":"Iechyd a lles"},"content":{"rendered":"<p>Mae yna lawer o lefydd i gael cyngor iechyd i chi a&#8217;ch teulu yng Nghaerdydd.<\/p>\n<h2>GIG 111 a gwasanaethau ar-lein<\/h2>\n<p>Mae GIG 111 yn wasanaeth am ddim sy&#8217;n darparu cymorth meddygol brys a chyngor dros y ff\u00f4n neu ar-lein.<\/p>\n<p>Dylech gysylltu \u00e2 GIG 111 am gyngor cyn mynd i Adran Damweiniau ac Achosion Brys os nad yw eich sefyllfa yn peryglu bywyd.<\/p>\n<p>Darganfyddwch fwy ar <a href=\"https:\/\/111.wales.nhs.uk\/?locale=en&amp;term=A\">wefan GIG 111 Cymru<\/a> neu ffoniwch 111.<\/p>\n<h2>Gofal iechyd brys<\/h2>\n<p>Os oes argyfwng meddygol, dylech:<\/p>\n<h3>Ffonio 999<\/h3>\n<p>Ffoniwch 999 os ydych chi neu rywun arall yn profi argyfwng sy&#8217;n peryglu bywyd. Mae hyn yn cynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li>Poen difrifol yn y frest<\/li>\n<li>Trafferth anadlu<\/li>\n<li>Gwaedu trwm<\/li>\n<li>Argyfwng iechyd meddwl<\/li>\n<li>Colli ymwybyddiaeth<\/li>\n<\/ul>\n<p>Bydd y gwasanaethau brys yn helpu ac, os oes angen, yn anfon ambiwlans.<\/p>\n<h3>Mynd i Adran Damweiniau ac Achosion Brys<\/h3>\n<p>Ewch i&#8217;ch adran Damweiniau ac Achosion Brys agosaf os oes angen sylw meddygol brys arnoch ar gyfer anafiadau difrifol.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/111.wales.nhs.uk\/localservices\/?s=Hospital&amp;pc=n&amp;sort=default\">Dewch o hyd i\u2019ch Adran Damweiniau ac Achosion Brys agosaf<\/a> ar wefan GIG 111 Cymru.<\/p>\n<p>Gallwch hefyd ffonio 111 neu <a href=\"https:\/\/111.wales.nhs.uk\/?locale=en&amp;term=A\">ymweld \u00e2 gwefan GIG 111 Cymru<\/a> am gymorth a gwybodaeth.<\/p>\n<h2>Fferyllfeydd<\/h2>\n<p>Gall fferyllfeydd helpu gyda m\u00e2n afiechydon a meddyginiaethau dros y cownter. Gallant hefyd gynnig archwiliadau iechyd a brechiadau.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/111.wales.nhs.uk\/localservices\/?s=Pharmacy&amp;pc=n&amp;sort=default\">Dewch o hyd i&#8217;ch fferyllfa leol<\/a> ar wefan GIG 111 Cymru.<\/p>\n<h2>Meddygon<\/h2>\n<p>Gall eich meddyg teulu helpu gydag amrywiaeth eang o faterion iechyd. Gallant gynnig:<\/p>\n<ul>\n<li>diagnosis,<\/li>\n<li>triniaethau, ac<\/li>\n<li>atgyfeiriadau at arbenigwyr.<\/li>\n<\/ul>\n<p><a href=\"https:\/\/111.wales.nhs.uk\/localservices\/?s=GPSurgeries&amp;pc=n&amp;sort=default\">Dewch o hyd i&#8217;ch meddyg teulu lleol<\/a> ar wefan GIG 111 Cymru.<\/p>\n<h2>Bydwreigiaeth<\/h2>\n<p>Mae bydwragedd yn cefnogi menywod beichiog a mamau newydd ac yn darparu gofal yn ystod<\/p>\n<ul>\n<li>beichiogrwydd,<\/li>\n<li>genedigaeth, a\u2019r<\/li>\n<li>cyfnod \u00f4l-enedigol.<\/li>\n<\/ul>\n<p><a href=\"https:\/\/111.wales.nhs.uk\/livewell\/pregnancy\/#:~:text=You%27ll%20find%20detailed%20week-by-week%20guides%20and%20lots%20of,the%20%27%20Your%20Pregnancy%20and%20Birth%20book%20%27.\">Darllenwch y Canllaw Beichiogrwydd<\/a> ar wefan GIG 111 Cymru.<\/p>\n<h2>Ymwelwyr iechyd<\/h2>\n<p>Mae ymwelwyr iechyd yn cefnogi teuluoedd \u00e2 babanod a phlant ifanc o&#8217;r cyfnod cynenedigol (28 wythnos) nes bod y plentyn yn troi&#8217;n 5.<\/p>\n<p>Mae ymwelwyr iechyd yn nyrsys cofrestredig a bydwragedd sydd wedi cael hyfforddiant ychwanegol ym maes nyrsio iechyd y cyhoedd. Maen nhw\u2019n gweithio gyda theuluoedd i nodi anghenion iechyd cyn gynted \u00e2 phosibl i wella iechyd a lles.<\/p>\n<p>I gysylltu \u00e2&#8217;ch ymwelydd iechyd, ffoniwch 029 2183 6916 neu darganfyddwch <a href=\"https:\/\/cavuhb.nhs.wales\/our-services\/children-young-people-family-health-services-cypf\/early-intervention-and-prevention-services\/health-visiting-service\/\">fwy am y Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd<\/a> ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a&#8217;r Fro.<\/p>\n<h2>Nyrsys ysgol<\/h2>\n<p>Mae nyrsys ysgol yn cynnig cyngor iechyd a chymorth i blant, pobl ifanc, a&#8217;u teuluoedd.<\/p>\n<p>Gallan nhw ddarparu cymorth ar gyfer:<\/p>\n<ul>\n<li>brechiadau,<\/li>\n<li>materion toiled, ac<\/li>\n<li>iechyd a lles emosiynol.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Darganfyddwch fwy am <a href=\"https:\/\/bipcaf.gig.cymru\/ein-gwasanaethau\/gwasanaethau-iechyd-plant-pobl-ifanc-a-theuluoedd\/gwasanaethau-atal-ac-ymyrryd-cynnar\/school-nursing\/\">wasanaethau Nyrsys Ysgol<\/a>.<\/p>\n<h2>Deintyddion<\/h2>\n<p>Ewch i wefan Llywodraeth Cymru i gael <a href=\"https:\/\/www.gov.wales\/accessing-nhs-dental-services\">gwybodaeth am gael mynediad at wasanaethau deintyddol y GIG<\/a>.<\/p>\n<p>Gallwch hefyd ffonio llinell gymorth ddeintyddol Caerdydd a&#8217;r Fro ar 0300 1020 247 (opsiwn 1).<\/p>\n<h3>Gofalu am ddannedd eich plentyn<\/h3>\n<p>Gall y <a href=\"https:\/\/phw.nhs.wales\/services-and-teams\/designed-to-smile\/\">Rhaglen Cynllun Gw\u00ean<\/a> roi cyngor i chi am ofalu am ddannedd eich plentyn i&#8217;w hatal rhag cael pydredd dannedd.<\/p>\n<h2>Iechyd meddwl<\/h2>\n<p>Mae gofalu am eich iechyd meddwl yn rhan bwysig o&#8217;ch lles cyffredinol.<\/p>\n<p>Os oes angen cymorth iechyd meddwl brys arnoch, ffoniwch 111 a phwyswch 2 am gymorth.<\/p>\n<h2>Lles<\/h2>\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/keepingmewell.com\/\">Cadw Fi\u2019n Iach<\/a> wedi&#8217;i gynllunio gan weithwyr iechyd a chleifion o Gaerdydd.<\/p>\n<p>Bydd y wybodaeth ar y wefan yn helpu i gefnogi eich iechyd a&#8217;ch lles \u2014 p&#8217;un a ydych chi:<\/p>\n<ul>\n<li>yn paratoi ar gyfer triniaeth,<\/li>\n<li>yn gwella ar \u00f4l triniaeth,<\/li>\n<li>yn rheoli cyflwr hirdymor, neu<\/li>\n<li>eisiau byw\u2019n iachach ac yn fwy egn\u00efol.<\/li>\n<\/ul>\n<h2>Bwyta&#8217;n iach, bwyd a maeth<\/h2>\n<p>Mae maeth da yn hanfodol ar gyfer cynnal iechyd a lles. Dyma rai awgrymiadau ac adnoddau:<\/p>\n<h3>Bwyta\u2019n Iach<\/h3>\n<p>Ewch i wefan Cadw Fi\u2019n Iach i gael gwybodaeth am:<\/p>\n<ul>\n<li><a href=\"https:\/\/keepingmewell.com\/living-well-leading-a-healthy-lifestyle\/eating-well\/\">fwyta&#8217;n dda<\/a>, a<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/keepingmewell.com\/services\/what-is-a-dietitian\/eating-and-cooking-well-on-a-budget\/\">ryseitiau rhad sydd yn iach<\/a>.<\/li>\n<\/ul>\n<h3>Pwysau iach<\/h3>\n<p>Gall <a href=\"https:\/\/everychild.wales\/parents\/\">10 cam i bwysau iach<\/a> eich helpu i fagu plant hapus, iach, a gwneud bywyd yn haws hefyd.<\/p>\n<h3>Deietegwyr<\/h3>\n<p>Dietegwyr yw&#8217;r unig weithwyr iechyd proffesiynol cymwys ac wedi eu rheoleiddio sy&#8217;n asesu, rhoi diagnosis ac yn trin problemau deiet a maeth.<\/p>\n<p>Ewch i wefan Cadw Fi\u2019n Iach i gael mwy o <a href=\"https:\/\/keepingmewell.com\/services\/what-is-a-dietitian\/\">wybodaeth am ddeietegwyr<\/a>.<\/p>\n<h2>Lleferydd, iaith a chyfathrebu<\/h2>\n<p>Mae&#8217;r <a href=\"https:\/\/keepingmewell.com\/childrens-support-services\/childrens-speech-and-language-therapy\/\">Gwasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd Plant (ThILl)<\/a> yn gweithio gyda theuluoedd, staff addysg a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill i gefnogi sgiliau lleferydd, iaith, cyfathrebu a bwydo plant.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gwasanaeth ThILl:<\/p>\n<ul>\n<li>yn gweithio gyda phlant rhwng 0 a 16 oed y mae eu trafferthion lleferydd, iaith, cyfathrebu neu fwydo yn effeithio ar eu bywydau.<\/li>\n<li>yn ceisio darparu cyngor ymarferol a chymorth i rymuso&#8217;r plentyn, a\/neu&#8217;r bobl o fewn rhwydwaith cymorth y plentyn, i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu a bwydo gweithredol.<\/li>\n<li>ar gael i gefnogi teuluoedd pan fydd angen. Bydd lefel yr ymwneud \u00e2 theuluoedd yn dibynnu ar eu hanghenion unigol.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Gall y t\u00eem dysffagia gynnig cyngor a chymorth gyda sgiliau bwydo a llyncu eich plentyn.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae yna lawer o lefydd i gael cyngor iechyd i chi a&#8217;ch teulu yng Nghaerdydd. GIG 111 a gwasanaethau ar-lein Mae GIG 111 yn wasanaeth am ddim sy&#8217;n darparu cymorth meddygol brys a chyngor dros y ff\u00f4n neu ar-lein. Dylech gysylltu \u00e2 GIG 111 am gyngor cyn mynd i Adran Damweiniau ac Achosion Brys os&#8230; <a class=\"view-article\" href=\"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/rhieni-a-gofalwyr\/iechyd-a-lles\/\">View Article<\/a>","protected":false},"author":1,"featured_media":8399,"parent":273,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"FeaturedImage.php","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"class_list":["post-8687","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/8687","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8687"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/8687\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8689,"href":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/8687\/revisions\/8689"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/273"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8399"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8687"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}