{"id":6709,"date":"2024-01-03T11:13:20","date_gmt":"2024-01-03T11:13:20","guid":{"rendered":"https:\/\/app-cprd-familyadvice.azurewebsites.net\/?page_id=6709"},"modified":"2025-05-12T10:29:22","modified_gmt":"2025-05-12T10:29:22","slug":"cyngor-caerdydd-datblygu-gweithle-a-telerau-amodau-grant-canolfan-achrededig","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/cyngor-caerdydd-datblygu-gweithle-a-telerau-amodau-grant-canolfan-achrededig\/","title":{"rendered":"cyngor-caerdydd-datblygu-gweithle-a-telerau-amodau-grant-canolfan-achrededig-2025-26"},"content":{"rendered":"<div class=\"wpb-content-wrapper\"><p>[vc_row][vc_column width=&#8221;1\/6&#8243; css=&#8221;.vc_custom_1704298478135{padding-top: 10% !important;}&#8221;][vc_single_image image=&#8221;251&#8243; img_size=&#8221;medium&#8221;][\/vc_column][vc_column width=&#8221;2\/3&#8243; el_class=&#8221;whitetext&#8221; css=&#8221;.vc_custom_1704280857127{padding-top: 2% !important;}&#8221;][vc_column_text css=&#8221;.vc_custom_1747045710234{background-color: #906ec8 !important;}&#8221;]<\/p>\n<h1 style=\"text-align: center;\">Telerau ac Amodau Grant Datblygu\u2019r Gweithlu Caerdydd a Chanolfan Achrededig Cyngor Caerdydd 2025-26<\/h1>\n<p>[\/vc_column_text][\/vc_column][vc_column width=&#8221;1\/6&#8243; css=&#8221;.vc_custom_1704298487378{padding-top: 7% !important;}&#8221;][vc_single_image image=&#8221;6678&#8243; img_size=&#8221;large&#8221;][\/vc_column][\/vc_row][vc_row][vc_column][vc_column_text]<\/p>\n<p style=\"text-align: justify;\">Bydd cymeradwyo a thalu Grant neu gymorth ariannol gan y Cyngor yn amodol ar y telerau a\u2019r amodau canlynol ynghyd ag amrywiadau neu unrhyw amodau arbennig arall a allai\u2019r Cyngor eu nodi ar adeg y cynnig ar yr adeg y rhoir y gymeradwyaeth.<\/p>\n<p>[\/vc_column_text][\/vc_column][\/vc_row][vc_row][vc_column][vc_tta_accordion color=&#8221;violet&#8221; spacing=&#8221;1&#8243; gap=&#8221;1&#8243; active_section=&#8221;1&#8243; no_fill=&#8221;true&#8221; collapsible_all=&#8221;true&#8221;][vc_tta_section title=&#8221;Diffiniadau&#8221; tab_id=&#8221;1704281623084-60d15a00-cdd8&#8243;][vc_column_text]O ran y Telerau ac Amodau, rhoddir yr ystyron canlynol i\u2019r geiriau canlynol:<\/p>\n<p><strong>Cytundeb\u00a0<\/strong><br \/>\nY dogfennau hynny y cyfeirir atynt yng nghymal 4.<\/p>\n<p><strong>Grant\u00a0<\/strong><br \/>\nY swm neu\u2019r symiau a nodir yn y llythyr cynnig.<\/p>\n<p><strong>Grant\u00ee\u00a0<\/strong><br \/>\nY sefydliad neu\u2019r corff a enwir yn llythyr y cynnig.<\/p>\n<p><strong>Cyngor\u00a0<\/strong><br \/>\nCyngor Sir Dinas A Sir Caerdydd.<\/p>\n<p><strong>Project\u00a0<\/strong><br \/>\nRhaglen o weithrediadau, ymchwil, datblygu, neu weithgareddau eraill a nodir yn y cais neu&#8217;r fanyleb.[\/vc_column_text][\/vc_tta_section][vc_tta_section title=&#8221;Telerau Cyffredinol&#8221; tab_id=&#8221;1704281623095-ebf16687-23ef&#8221;][vc_column_text]<strong>1.<\/strong> Rhaid i\u2019r Grant\u00ee dderbyn yr holl delerau ac amodau hyn yn ysgrifenedig cyn y telir unrhyw Grant a phetai diffyg neu oedi ar ran y Grant\u00ee mewn perthynas \u00e2 derbyn y Grant neu unrhyw ran o\u2019r Grant yna byddwn yn tybio bod y Grant\u00ee yn derbyn y telerau hyn.<\/p>\n<p style=\"text-align: justify;\"><strong>2.<\/strong> Dim ond at y dibenion a gymeradwywyd yn llythyr y Cyngor sy&#8217;n cynnig y Grant y gellir defnyddio unrhyw Grant a ddyfernir gan y Cyngor.\u00a0 Lle na nodir unrhyw ddibenion yn y llythyr hwnnw, y dibenion a gymeradwyir bydd y rhai a nodwyd yn benodol gan y Grant\u00ee yn y ffurflen gais a\/neu Fanyleb Grant ac unrhyw atodiad y cytunwyd arno.\u00a0 Gellir addasu\u2019r dibenion cymeradwy drwy gytundeb ysgrifenedig rhwng y Cyngor a\u2019r Grant\u00ee. \u00a0Bydd y cytundeb rhagosodedig bob amser yn nodi&#8217;r dibenion hynny a nodwyd yn benodol yn y ffurflen gais, y Fanyleb Grant ac unrhyw atodiad y cytunwyd arno. Yn yr achosion hynny lle mae\u2019r Cyngor yn tybio y byddai cael cytundeb grant yn ddymunol, caiff y Grant ei ryddhau ar yr amod bod y Grant\u00ee yn llofnodi cytundeb.<\/p>\n<p><strong>3.<\/strong> Rhoddir unrhyw Grant yn ddibynnol ar y wybodaeth a roddir yn y ffurflen gais a\/neu\u2019r Fanyleb Grant ac unrhyw wybodaeth atodol a roddir gan y Grant\u00ee a bydd unrhyw gamgynrychiolaeth, gan gynnwys cuddio neu atal gwybodaeth berthnasol gan y Grant\u00ee yn golygu methiant i gydymffurfio \u00e2\u2019r telerau ac amodau hyn yn \u00f4l disgresiwn y Cyngor.<\/p>\n<p><strong>4.<\/strong> Y ffurflen gais, y Fanyleb Grant ac unrhyw wybodaeth atodol y cytunwyd arni ynghyd ag unrhyw lythyr cynnig, ffurflen dderbyn a Chytundeb Grant (yn \u00f4l y gofyn) fydd sail gyfan y Grant ac ni fydd unrhyw sylwadau llafar gan y Grant\u00ee na\u2019r Cyngor yn cael eu cynnwys yn nhelerau nac amodau\u2019r cynnig nac wrth dderbyn y Grant neu unrhyw ran ohono.<\/p>\n<p><strong>5.<\/strong> Os dyfernir Grant ar gyfer un flwyddyn ariannol (1 Ebrill i 31 Mawrth), nid yw hyn yn golygu y caiff Grant ei ddyfarnu ar gyfer y flwyddyn olynol oni nodir hynny\u2019n benodol yn nhelerau\u2019r cynnig ffurfiol. Ni fydd y Cyngor yn atebol am unrhyw ymrwymiadau a wnaed gan y Grant\u00ee na fydd yn gallu eu cyflawni oni chaiff Grant ei ddyfarnu.<\/p>\n<p><strong>6.<\/strong> Gall y Cyngor ymrwymo i roi Grant o hyd at dair blynedd. Bydd Grant o\u2019r fath yn amodol ar ddarpariaethau paragraff 5 uchod, a bydd parhad y grant ym mlwyddyn dau a thri yn \u00f4l disgresiwn y Cyngor ac yn amodol ar fonitro perfformiad, monitro ariannol a\u2019r gyllideb sydd ar gael.<\/p>\n<p><strong>7.<\/strong> Lle mae Grant yn daladwy mewn rhandaliadau, gellir atal unrhyw randaliad neu randaliadau neu rannau ohonynt os yw\u2019r Grant\u00ee yn methu \u00e2 bodloni\u2019r Cyngor bod y Grant yn cael ei ddefnyddio neu y bydd yn cael ei ddefnyddio yn y dyfodol ar gyfer y dibenion cymeradwy yn unig neu os yw\u2019r Cyngor o\u2019r farn nad yw unrhyw rai o\u2019r telerau ac amodau eraill yn cael eu cyflawni neu o dan yr amgylchiadau a nodir ym mharagraff 44 isod.<\/p>\n<p><strong>8.<\/strong> Ni chaiff unrhyw ran o\u2019r Grant ei defnyddio at ddibenion gwleidyddol, ac ni fydd unrhyw agwedd ar weithgareddau a ariennir gan y Grant yn wleidyddol yn eu bwriad, eu defnydd na\u2019u cyflwyniad.<\/p>\n<p><strong>9.<\/strong> Os bydd unrhyw newid i unrhyw wybodaeth a ddarparwyd i\u2019r Cyngor yn ystod y broses ymgeisio, cyn cyflwyno unrhyw gymeradwyaeth grant, bydd y Grant\u00ee yn hysbysu\u2019r Cyngor ar unwaith.<\/p>\n<p><strong>10.<\/strong> Ni roddir cymeradwyaeth grant fel arfer yn \u00f4l-weithredol ar gyfer projectau sydd eisoes yn cael eu cyflawni, gwaith a gwblhawyd, neu offer a brynwyd cyn dyddiad y cais. Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y bydd cais o\u2019r fath yn cael ei ystyried. Rhaid i\u2019r Grant\u00ee ad-dalu unrhyw Grant a ddefnyddiwyd ar sail \u00f4l-weithredol yn ddiarwybod i\u2019r Cyngor neu heb ei ganiat\u00e2d.<\/p>\n<p><strong>11.<\/strong> Fel mater o arfer da, bydd y Grant\u00ee yn gwneud ei orau i gael cymorth ariannol gan amrywiaeth o ffynonellau ac i beidio \u00e2 dibynnu\u2019n llwyr ar y Cyngor am gyllid.<\/p>\n<p><strong>12.<\/strong> Dylai\u2019r Grant\u00ee reoli ei adnoddau\u2019n effeithlon.\u00a0 Lle bydd y Grant\u00ee yn derbyn arian rheolaidd gan y Cyngor, disgwylir i\u2019r Grant\u00ee allu dangos arbedion effeithlonrwydd gweithredol dros gyfnod o amser.<\/p>\n<p><strong>13.<\/strong> Yn ei ddeunydd cyhoeddusrwydd, rhaid i\u2019r Grant\u00ee gydnabod y cyfraniad ariannol a wnaed i\u2019w weithgareddau gan y Cyngor ond ni chaiff y Grant\u00ee ddefnyddio logo hawlfraint y Cyngor ar unrhyw ddeunydd neu ddogfennau cyhoeddusrwydd oni chafwyd caniat\u00e2d penodol i wneud hynny ymlaen llaw gan y Cyngor.<\/p>\n<p style=\"text-align: justify;\"><strong>14.<\/strong> Er mwyn sicrhau cydweithrediad a phartneriaeth effeithiol, bydd y Grant\u00ee, yn y lle cyntaf, yn rhoi cyfle i\u2019r Cyngor ymateb i unrhyw feirniadaeth neu bryderon sydd ganddo. \u00a0Bydd y Cyngor hefyd yn cydymffurfio \u00e2\u2019r egwyddor hon ac yn trafod unrhyw bryderon sydd ganddo gyda\u2019r Grant\u00ee yn y lle cyntaf.<\/p>\n<p style=\"text-align: justify;\"><strong>15.<\/strong> Mewn amgylchiadau eithriadol lle mae pryderon ariannol yn codi, bydd y Grant\u00ee yn rhoi mynediad i\u2019r Cyngor i\u2019r holl lyfrau, cyfrifon a thalebau, gan gynnwys cyfriflenni Banc, sieciau adenillion a bonion sieciau cyn pen 10 diwrnod gwaith o unrhyw gais neu cyn gynted \u00e2 phosibl ar \u00f4l y cais.\u00a0 Drwy dderbyn y Grant neu unrhyw ran ohono mae&#8217;r Grant\u00ee yn rhoi awdurdod i&#8217;r Cyngor gysylltu \u00e2 Banc neu Gyfrifydd y Grant\u00ee ac yn rhoi caniat\u00e2d diamod i&#8217;r Banc neu&#8217;r Cyfrifydd hwnnw roi unrhyw wybodaeth i&#8217;r Cyngor yn gysylltiedig ag unrhyw drafodion a wnaed gan y Grant\u00ee mewn perthynas \u00e2\u2019r arian Grant. Mae\u2019r Grant\u00ee yn rhoi caniat\u00e2d i\u2019r Cyngor ddarparu copi o\u2019r ffurflen gais, y Fanyleb Grant, y llythyr cynnig, y ffurflen dderbyn a&#8217;r telerau ac amodau hyn i&#8217;r Banc neu&#8217;r Cyfrifydd hwnnw i gadarnhau&#8217;r sefyllfa.<\/p>\n<p>[\/vc_column_text][\/vc_tta_section][vc_tta_section title=&#8221;Trethiant&#8221; tab_id=&#8221;1704281671096-93034c55-a0d2&#8243;][vc_column_text]<\/p>\n<p style=\"text-align: justify;\"><strong>16.<\/strong> Rhaid i\u2019r Grant\u00ee fod yn atebol am unrhyw drethiant neu doll sy\u2019n daladwy yn y Deyrnas Unedig mewn perthynas \u00e2\u2019i gyfranogiad yn y Cytundeb a chan ymrwymo i ddigolledu\u2019r Cyngor mewn perthynas ag unrhyw drethiant a aseswyd ac a dalwyd gan y Cyngor y mae\u2019r Grant\u00ee yn atebol amdano yn bennaf.<\/p>\n<p style=\"text-align: justify;\"><strong>17.<\/strong> Treth Ar Werth (T.A.W) \u00a0Dim ond lle nad yw\u2019r Grant\u00ee wedi\u2019i gofrestru at ddibenion Treth Ar Werth (T.A.W) y rhoddir cymorth grant ar gyfer T.A.W, neu lle gall brofi nad oes modd iddo adennill y cyfan neu ran o\u2019r T.A.W oddi wrth adran Tollau Tramor a Chartref Ei Mawrhydi.<\/p>\n<p>[\/vc_column_text][\/vc_tta_section][vc_tta_section title=&#8221;Ymddygiad Cywir&#8221; tab_id=&#8221;1704281695917-849d4252-27de&#8221;][vc_column_text]<strong>18<\/strong><\/p>\n<p style=\"text-align: justify; padding-left: 40px;\"><strong>a)<\/strong> Bydd y Grant\u00ee yn cydymffurfio \u00e2 deddfwriaeth berthnasol a\u2019i rwymedigaethau statudol a chyfreithiol bob amser (e.e. unrhyw gytundeb prydles\/tenantiaeth, caniat\u00e2d cynllunio, cyflogaeth, cyfle cyfartal, trethiant, yswiriant, iechyd a diogelwch, diogelu data, cyfreithiau a rheoliadau trwyddedu ac ati) a all effeithio ar ei weithgareddau ac ym mhob achos ni ddylai achosi unrhyw weithred neu anweithred yn fwriadol neu\u2019n esgeulus a fyddai\u2019n arwain at gamddefnyddio neu wastraffu cyllid Grant.<\/p>\n<p style=\"text-align: justify; padding-left: 40px;\"><strong>b)<\/strong> Tybir bod y Grant\u00ee, wrth gyflwyno\u2019r ffurflen gais hon am grant, wedi ystyried a fyddai dyfarniad y grant yn arwain at unrhyw oblygiadau posibl o ran Cymorth Gwladwriaethol (o ran cyfanswm y cyllid y gallai\u2019r Grant\u00ee fod wedi\u2019i gael gan unrhyw gorff cyhoeddus dros y 3 blynedd diwethaf) ac os caiff unrhyw faterion posibl o\u2019r fath eu nodi, codir hynny gyda&#8217;r Cyngor yn ei gais am grant. At hynny, bydd y Grant\u00ee&#8217;n darparu gwybodaeth i\u2019r Cyngor fel sy\u2019n rhesymol ofynnol i alluogi\u2019r Cyngor i gynnal asesiad o\u2019r Project i ystyried a yw\u2019n cydymffurfio \u00e2&#8217;r Rheolau Cymorth Gwladwriaethol, ond ni fydd unrhyw asesiad o\u2019r fath a gynhelir gan y Cyngor yn rhyddhau\u2019r Grant\u00ee o\u2019i rwymedigaethau dan y Cytundeb hwn, gan gynnwys, ond heb eu cyfyngu i&#8217;w rwymedigaethau i ad-dalu&#8217;r grant dan gymal 52. Cyfrifoldeb y Grant\u00ee, drwy ymrwymo i\u2019r Cytundeb hwn, yw sicrhau nad yw swm y grant, diben y grant, y defnydd gwirioneddol a wneir o\u2019r grant a materion perthnasol eraill sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r grant, yn torri unrhyw amodau o eithriad neu awdurdodiad Cymorth Gwladwriaethol perthnasol sy\u2019n berthnasol i ddyfarniad y grant a fyddai\u2019n gwneud y grant yn Gymorth Gwladwriaethol anghyfreithlon.\u00a0 Nid yw\u2019r Cyngor yn gyfrifol am unrhyw ddatganiadau neu wybodaeth a allai eu rhoi i\u2019r Grant\u00ee mewn perthynas \u00e2 pherthnasedd Cymorth Gwladwriaethol, neu fel arall, ac ni ellir dod i unrhyw gasgliadau o\u2019r penderfyniad i ddyfarnu neu weithredu grant (gan gynnwys ymrwymo i\u2019r Cytundeb hwn) fod y Cyngor yn fodlon na fyddai\u2019r grant gyfystyr \u00e2 Chymorth Gwladwriaethol.\u00a0 I gael rhagor o gyngor ar y Rheolau Cymorth Gwladwriaethol, ewch i <strong><a href=\"http:\/\/www.gov.uk\/government\/publications\/state-aid-the-basics\" rel=\"noopener\">www.gov.uk\/government\/publications\/state-aid-the-basics<\/a><\/strong><\/p>\n<p style=\"text-align: justify;\"><strong>19.<\/strong> Pan fo gweithgareddau\u2019r Grant\u00ee yn cynnwys gweithio gyda phlant a phobl ifanc bydd y Grant\u00ee yn sicrhau bod y bobl hynny y mae\u2019n trefnu iddynt gysylltu \u00e2\u2019r plant a\u2019r bobl ifanc neu weithio gyda hwy yn cael gwiriad manwl fel sy\u2019n briodol, gan gynnwys gwiriadau\u2019r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn \u00f4l yr angen.<\/p>\n<p style=\"text-align: justify;\"><strong>20.<\/strong> Mae canllawiau Deddf Plant 2004 ar gyfer Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a\u2019u partneriaid ystyried y dyletswyddau a\u2019r egwyddorion a nodwyd yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau\u2019r Plentyn (CCUHP). Mae\u2019r Cyngor yn disgwyl y byddai Grant\u00ee, wedi\u2019i gyllido i gefnogi gweithgareddau perthnasol, yn cydymffurfio \u00e2\u2019r un dyletswyddau ac egwyddorion.<\/p>\n<p>[\/vc_column_text][\/vc_tta_section][vc_tta_section title=&#8221;Iechyd a Diogelwch&#8221; tab_id=&#8221;1704281728019-7074bcf9-a41e&#8221;][vc_column_text]<strong>21.<\/strong> Rhaid i\u2019r Grant\u00ee fod yn gyfrifol am iechyd a diogelwch ei weithwyr ei hun ac isgontractwyr wrth roi\u2019r Project ar waith a rhaid iddo sicrhau eu bod yn derbyn yr hyfforddiant priodol mewn perthynas \u00e2 gweithdrefnau diogelwch a chan ddarparu\u2019r holl offer diogelwch sy\u2019n ofynnol yn \u00f4l y gyfraith neu&#8217;r rhai a gymeradwyir yn gyffredinol yn \u00f4l arfer gorau o bryd i\u2019w gilydd.<\/p>\n<p><strong>22.<\/strong> Rhaid i\u2019r Grant\u00ee gymryd cyfrifoldeb am ddiogelwch, gweithrediad cywir, addasrwydd at y diben a chydymffurfiaeth \u00e2 gofynion cyfreithiol yr holl offer a\u2019r cyfarpar a ddarparwyd ganddo ar gyfer y gwaith o gyflawni\u2019r Project ac er mwyn osgoi amheuaeth bydd y cyfrifoldeb hwn yn cael ei ymestyn er mwyn sicrhau diogelwch, gweithrediad cywir ac addasrwydd at y diben yr offer a\u2019r cyfarpar sydd yn nwylo cyflogeion neu isgontractwyr unrhyw barti neu bart\u00efon eraill, gan gynnwys, ymysg eraill, unrhyw berson a allai fod yn eu defnyddio\u2019n gywir neu a allai fod o\u2019u cwmpas.<\/p>\n<p><strong>23.<\/strong> Rhaid i\u2019r Grant\u00ee gymryd cyfrifoldeb am sefydlogrwydd, diogelwch ac addasrwydd unrhyw eiddo sy\u2019n berchen iddo a\/neu a feddiannir ganddo a\u2019r safle lle y cyflawnir y Project neu lle gallai\u2019r Project fod yn cael ei gyflawni.<\/p>\n<p><strong>24.<\/strong> Os ceir:<\/p>\n<p style=\"padding-left: 40px;\"><strong>a)<\/strong> hawliad llwyddiannus yn erbyn y Cyngor, sut bynnag y mae\u2019n codi, p\u2019un ai mewn perthynas ag esgeulustod, niwsans, torri dyletswydd statudol, neu unrhyw gamwedd arall, neu mewn perthynas ag unrhyw hawl neu gam adfer cyfreithiol arall, sut bynnag y mae\u2019n codi o\u2019r Cytundeb, neu.<\/p>\n<p style=\"padding-left: 40px;\"><strong>b)<\/strong> erlyniad llwyddiannus yn erbyn y Cyngor neu ei gyflogeion o ran unrhyw fethiant i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad cyfreithiol o ganlyniad i\u2019r Cytundeb.<\/p>\n<p>erlyniad llwyddiannus yn erbyn y Cyngor neu ei weithwyr mewn perthynas ag unrhyw fethiant i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad cyfreithiol o ganlyniad i\u2019r Cytundeb hwn rhwng y Cyngor a&#8217;r Grant\u00ee, bydd y Grant\u00ee yn atebol am unrhyw atebolrwydd, costau, hawliadau, galwadau, treuliau, dirwyon a chosbau eraill (gan gynnwys ffioedd cyfreithiol a threuliau) sy\u2019n codi o hynny neu\u2019n ymwneud \u00e2 hynny mewn unrhyw ffordd hyd eithaf ei gyfrifoldebau, a benderfynir yn unol \u00e2 chymal 21 a darpariaethau\u2019r cytundeb hwn yn gyffredinol, a bydd y Grant\u00ee yn digolledu ac yn parhau i ddigolledu ac yn rhoi cyfrif i&#8217;r Cyngor yn unol \u00e2 hynny.<\/p>\n<p><strong>25.<\/strong> Bydd darpariaethau cymalau 21 \u2013 23 yn goroesi terfyniad y trefniadau cyllid grant.[\/vc_column_text][\/vc_tta_section][vc_tta_section title=&#8221;Offer&#8221; tab_id=&#8221;1704281747363-e3bb0656-bdb0&#8243;][vc_column_text]<\/p>\n<p style=\"text-align: justify;\"><strong>26.<\/strong> Lle mae\u2019r grant neu unrhyw ran ohono yn cael ei ddefnyddio gan y Grant\u00ee i brynu neu gaffael unrhyw fuddiant mewn unrhyw ased (gan gynnwys tir ac adeiladau, cerbydau, celfi neu offer), a bod yr ased neu\u2019r buddiant ynddo yn cael ei werthu wedyn neu y rhoir y gorau i\u2019w ddefnyddio at y diben cymeradwy y\u2019i cafwyd, rhaid i\u2019r Grant\u00ee, os yw\u2019r Cyngor yn gorchymyn hynny, ad-dalu i\u2019r Cyngor werth llawn yr ased fel yr oedd ar ddyddiad ei werthu neu&#8217;r dyddiad y rhoddwyd y gorau i\u2019w ddefnyddio at y diben cymeradwy, neu swm llai y mae\u2019r Cyngor, yn \u00f4l ei ddisgresiwn, yn ei ystyried yn gyfran deg o werth yr ased ar y farchnad.<\/p>\n<p>[\/vc_column_text][\/vc_tta_section][vc_tta_section title=&#8221;Elw Preifat&#8221; tab_id=&#8221;1704281767670-fc972f82-93a7&#8243;][vc_column_text]<strong>27.<\/strong> Ni chaiff y Grant\u00ee, dan unrhyw amgylchiadau, ddefnyddio\u2019r cyllid Grant yn uniongyrchol neu\u2019n anuniongyrchol mewn ffordd a fydd yn elwa unrhyw unigolyn, cwmni neu gorff o bersonau preifat yn ddiarwybod i\u2019r Cyngor neu heb ei ganiat\u00e2d.[\/vc_column_text][\/vc_tta_section][vc_tta_section title=&#8221;Yswiriant&#8221; tab_id=&#8221;1704281788914-8eb294c7-faa9&#8243;][vc_column_text]<\/p>\n<p style=\"text-align: justify;\"><strong>28.<\/strong> Mae\u2019r Grant\u00ee yn gyfrifol am yswirio yn erbyn unrhyw risgiau a allai godi mewn cysylltiad ag unrhyw eiddo sy\u2019n perthyn i\u2019r Grant\u00ee neu unrhyw weithgaredd a gyflawnir gan y Grant\u00ee a ariennir yn gyfan gwbl neu\u2019n rhannol drwy gymorth Grant gan y Cyngor.\u00a0 Mae hyn yn cynnwys unrhyw golled neu anaf personol i staff neu wirfoddolwyr sy\u2019n cyflawni\u2019r gweithgareddau a ariennir drwy gymorth y Grant.\u00a0 Ceidw\u2019r Cyngor yr hawl i\u2019w gwneud yn ofynnol i\u2019r Grant\u00ee gyflwyno unrhyw ddogfennau perthnasol mewn perthynas \u00e2\u2019r polis\u00efau yswiriant i\u2019w harchwilio.\u00a0 Ni fydd y Cyngor o dan unrhyw amgylchiadau yn gyfrifol am unrhyw dreuliau annisgwyl wrth gefn mewn perthynas ag eiddo neu weithgareddau y rhoddwyd grant ar ei gyfer yn gyfan gwbl neu yn rhannol. Mae\u2019r cyfrifoldeb am unrhyw gynlluniau wrth gefn o\u2019r math hwn yn perthyn yn gyfan gwbl i\u2019r Grant\u00ee a bydd rhaid iddo drefnu sicrwydd yswiriant ar gyfer pob posibilrwydd drwy bolis\u00efau yswiriant digonol. Mae\u2019r Grant\u00ee yn indemnio\u2019r Cyngor yn erbyn yr holl gostau a hawliadau yn hynny o beth.<\/p>\n<p>[\/vc_column_text][\/vc_tta_section][vc_tta_section title=&#8221;Cyflogaeth&#8221; tab_id=&#8221;1704281819046-e88040ed-440c&#8221;][vc_column_text]<\/p>\n<p style=\"text-align: justify;\"><strong>29.<\/strong> Ni ddylai\u2019r Grant\u00ee, dan unrhyw amgylchiadau, drwy weithred neu ddiffyg gweithred, achosi i unrhyw un o weithwyr neu wirfoddolwyr y Grant\u00ee gredu bod perthynas gyflogaeth wedi\u2019i chreu neu fod un yn bodoli rhwng y cyflogai neu&#8217;r gwirfoddolwr hwnnw a&#8217;r Cyngor.<\/p>\n<p><strong>30.<\/strong> Lle defnyddir y Grant neu unrhyw ran ohono i gyflogi staff cyflogedig bydd y meini prawf canlynol yn berthnasol:<\/p>\n<ul>\n<li>Rhaid i\u2019r Grant\u00ee weithredu Polisi Cyfle Cyfartal a gweithdrefn recriwtio yn unol \u00e2\u2019r hyn a gyflwynwyd i\u2019r Cyngor ac a gymeradwywyd ganddo fel rhan o\u2019r cais am Grant.<\/li>\n<li>Rhaid i\u2019r Grant\u00ee sicrhau y gwneir apwyntiadau o\u2019r fath yn \u00f4l y t\u00e2l a\u2019r amodau a hysbyswyd ac a gymeradwywyd gan y Cyngor fel rhan o\u2019r cais am Grant.<\/li>\n<li>Rhaid i\u2019r Grant\u00ee sicrhau y paratoir swydd ddisgrifiad a manyleb person ar gyfer pob swydd sy\u2019n derbyn cymorth grant a bod gan yr unigolyn a benodir gontract cyflogaeth. Mae\u2019r Grant\u00ee yn cytuno y gall Swyddog y Cyngor fynychu unrhyw gyfweliadau ar gyfer swyddi o\u2019r fath mewn capasiti ymgynghorol.<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>31.<\/strong> Rhaid i\u2019r Grant\u00ee gydymffurfio \u00e2\u2019r holl ddeddfwriaeth berthnasol mewn perthynas \u00e2 chyflogaeth, cysylltiadau llafur ac iechyd a diogelwch yn y gwaith. Rhaid i Grant\u00ee sydd \u00e2 chyflogeion gael Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwyr.<\/p>\n<p><strong>32.<\/strong> Os yw\u2019r Grant\u00ee yn sefydliad gwirfoddol, ni ddylai gyflogi unrhyw aelod o\u2019i Bwyllgor Rheoli fel aelod o staff cyflogedig.\u00a0 Os penodir aelod o&#8217;r Pwyllgor Rheoli i swydd o fewn y sefydliad gwirfoddol, rhaid iddo\/iddi ymddiswyddo o&#8217;r Pwyllgor Rheoli cyn cychwyn ar gyflogaeth o\u2019r fath.\u00a0 Rhaid i aelodau&#8217;r Pwyllgor Rheoli sydd yn ffrind agos neu sy\u2019n perthyn i berson a gyflogir gan y Grant\u00ee ddatgan y berthynas yn ysgrifenedig i aelodau eraill y Pwyllgor. Lle y bo\u2019n briodol gall Swyddogion y Cyngor fynychu cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli at ddibenion ymgynghori yn unig.[\/vc_column_text][\/vc_tta_section][vc_tta_section title=&#8221;Newid Person\u00e9l neu Leoliad&#8221; tab_id=&#8221;1704281835805-48e53463-9869&#8243;][vc_column_text]<strong>33.<\/strong> Lle mae\u2019r ffurflen gais a\u2019r Fanyleb Grant yn dynodi y bydd aelod neu d\u00eem penodol o berson\u00e9l y Grant\u00ee yn rheoli neu\u2019n cyflawni\u2019r cymorth Grant o leoliad penodol, ni chaiff y Grant\u00ee newid yr aelod na\u2019r t\u00eem na\u2019r lleoliad hwnnw heb ganiat\u00e2d y Cyngor, ond ni fydd y cais am ganiat\u00e2d o\u2019r fath yn cael ei atal yn afresymol.[\/vc_column_text][\/vc_tta_section][vc_tta_section title=&#8221;Cyfrifon&#8221; tab_id=&#8221;1704282114379-5422a2ee-e910&#8243;][vc_column_text]<strong>34.<\/strong> Rhaid i\u2019r Grant\u00ee gadw cyfrifon cyfredol i\u2019w harchwilio gan y Cyngor ar unrhyw adeg.\u00a0 Dylai\u2019r cyfrifon gael eu paratoi yn \u00f4l yr arfer gorau a argymhellir. Dylid defnyddio\u2019r flwyddyn ariannol 1 Ebrill \u2013 31 Mawrth lle bo hynny\u2019n bosib, oni bai bod natur gweithgareddau\u2019r Grant\u00ee yn atal hynny.<\/p>\n<p><strong>35.<\/strong> Mae\u2019r Cyngor yn ei gwneud yn ofynnol i bob Grant\u00ee sy\u2019n derbyn Grant ddarparu cyfrifon blynyddol a gaiff eu paratoi yn unol \u00e2\u2019r arfer gorau a argymhellir.<\/p>\n<p><strong>36.<\/strong> Bydd yr holl gyfrifon yn nodi\u2019n glir holl Grantiau&#8217;r Cyngor ac unrhyw Grantiau eraill a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn ariannol honno.<\/p>\n<p><strong>37.<\/strong> Rhaid paratoi\u2019r cyfrifon yn y fath fodd fel y gall y Cyngor weld at ba ddiben y defnyddiwyd y Grant gan y Grant\u00ee.[\/vc_column_text][\/vc_tta_section][vc_tta_section title=&#8221;Monitro Cynnydd a Phrosesu Data&#8221; tab_id=&#8221;1704282135962-49dde6ad-bd0e&#8221;][vc_column_text]<strong>38.<\/strong> Bydd y grant\u00ee yn cydymffurfio \u00e2\u2019r trefniadau monitro fel y nodir yn y pecyn cais a\/neu\u2019r llythyr cynnig neu\u2019r Manyleb Grant ar gyfer y Cynllun Grant y gwneir cais amdano.<\/p>\n<p><strong>39.<\/strong> Rhaid i\u2019r Grant\u00ee, yn \u00f4l y gofyn, baratoi adroddiadau ysgrifenedig i\u2019r Cyngor yngl\u0177n \u00e2 chyflawniad a chynnydd y gwaith y dyfarnwyd y Grant ar ei gyfer. Rhaid i\u2019r Grant\u00ee, heb godi t\u00e2l, ganiat\u00e1u i unrhyw swyddog neu swyddogion o\u2019r Cyngor, ar unrhyw adeg resymol, ymweld \u00e2\u2019i eiddo a\/neu archwilio unrhyw rai o\u2019i weithgareddau a\/neu archwilio a chymryd cop\u00efau o lyfrau cyfrifon y Grant\u00ee ac unrhyw ddogfennau neu gofnodion tebyg a allai fod, ym marn y swyddogion, yn berthnasol mewn unrhyw ffordd i\u2019r defnydd a wneir o\u2019r Grant gan y Grant\u00ee.\u00a0 Mae\u2019r amod hwn heb ragfarn ac yn amodol ar unrhyw hawliau statudol a phwerau eraill a arferir gan y Cyngor neu unrhyw swyddog, gwas neu gynrychiolydd.<\/p>\n<p><strong>40.<\/strong> Rhaid i\u2019r Grant\u00ee ddarparu gwybodaeth arall i\u2019r Cyngor yngl\u0177n \u00e2\u2019i weithgareddau neu\u2019r gweithgareddau arfaethedig, ac yngl\u0177n \u00e2\u2019r defnydd a\u2019r defnydd arfaethedig o\u2019r cyfan neu unrhyw ran o Grant y Cyngor, yn \u00f4l gofyn y Cyngor o bryd i\u2019w gilydd.\u00a0 Bydd gan y Cyngor yr hawl i ddefnyddio hyn a\u2019r holl wybodaeth a ddarparwyd gan y Grant\u00ee yn gysylltiedig \u00e2\u2019r Grant fel y mynno.<\/p>\n<p><strong>41.<\/strong> Bydd rhan neu&#8217;r cyfan o\u2019r wybodaeth a ddarperir ar y ffurflen gais yn cael ei gadw ar gyfrifiadur a rhydd y Grant\u00ee ei ganiat\u00e2d i brosesu unrhyw wybodaeth bersonol o dan y Ddeddf Diogelu Data cyn belled \u00e2 bydd y data hwnnw\u2019n parhau i fod yn gyfrinachol rhwng y Grant\u00ee a Swyddogion y Cyngor a\u2019r Aelodau perthnasol oddieithr lle mae\u2019r gyfraith yn caniat\u00e1u dadlennu\u2019r data, yna mae\u2019n bosib y bydd Cyngor yn gwneud hynny.\u00a0 Bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio i weinyddu ceisiadau Grant ac ar gyfer dadansoddi ystadegau.\u00a0 Cyhoeddir manylion ceisiadau Grant llwyddiannus mewn adroddiad blynyddol i&#8217;r Cyngor.[\/vc_column_text][\/vc_tta_section][vc_tta_section title=&#8221;Rhyddid Gwybodaeth&#8221; tab_id=&#8221;1704282156723-396a43a8-ca74&#8243;][vc_column_text]<\/p>\n<p style=\"text-align: justify;\"><strong>42.<\/strong> Gall y Cyngor ddatgelu gwybodaeth os yw\u2019r gyfraith yn caniat\u00e1u hynny neu os oes dyletswydd ar y Cyngor i wneud hynny. \u00a0Nid yw\u2019r wybodaeth a geir yn gyfrinachol dan ystyr Adran 41 y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a chaiff ceisiadau i ddatgelu gwybodaeth o dan y Ddeddf honno eu trin yn unol \u00e2\u2019r Cod Ymarfer dan Adran 45 o\u2019r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth gan ystyried egwyddorion diogelu data Deddf Diogelu Data 1998 mewn perthynas \u00e2 data personol.<\/p>\n<p>[\/vc_column_text][\/vc_tta_section][vc_tta_section title=&#8221;Deddf yr Iaith Gymraeg&#8221; tab_id=&#8221;1704282172926-794b8f03-ec11&#8243;][vc_column_text]<strong>43.<\/strong> Yn ystod Tymor y Cytundeb bydd y Grant\u00ee yn cydymffurfio \u00e2 gofynion:<\/p>\n<p style=\"padding-left: 40px;\"><strong>43.1.1<\/strong>\u00a0\u00a0 Cynllun Iaith Gymraeg yr Awdurdod;<\/p>\n<p style=\"padding-left: 40px;\"><strong>43.1. 2<\/strong>\u00a0 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (\u201cy Mesur\u201d) a phan ddaw darpariaethau\u2019r Mesur i rym ac i\u2019r graddau y mae\u2019n ymwneud \u00e2 darparu\u2019r Grant.<\/p>\n<p>[\/vc_column_text][\/vc_tta_section][vc_tta_section title=&#8221;Rheolaethau Ariannol&#8221; tab_id=&#8221;1704282194124-970ec809-da1f&#8221;][vc_column_text]<\/p>\n<p style=\"text-align: justify;\"><strong>44.<\/strong> Bydd y Grant\u00ee yn sicrhau bod rheolaethau ariannol digonol, e.e. sicrhau bod dyletswyddau\u2019n cael eu gwahanu, cynnal llyfrau a chofnodion priodol, cyfrifon banc y mae angen dau lofnod arnynt a chadw dogfennau ategol at ddibenion archwilio, yn bodoli bob amser.<\/p>\n<p style=\"text-align: justify;\"><strong>45.<\/strong> Oni chaiff y Grant ei wario at ddibenion cymeradwy yn ystod y flwyddyn ariannol y mae\u2019n berthnasol iddi, gall y Cyngor adhawlio unrhyw arian sy\u2019n weddill yn ystod neu ar ddiwedd y flwyddyn ariannol honno a\/neu gellir ystyried yr arian hwnnw wrth bennu swm y Grant i\u2019w dalu yn ystod y flwyddyn ariannol ganlynol.<\/p>\n<p><strong>46.<\/strong> Ni chaiff y Grant\u00ee glustnodi unrhyw ran o\u2019r Grant i drydydd parti heb gael caniat\u00e2d ysgrifenedig blaenorol gan y Cyngor.<\/p>\n<p style=\"text-align: justify;\"><strong>47.<\/strong> Rhaid i\u2019r Grant\u00ee roi gwybod i\u2019r Cyngor cyn gynted ag y daw\u2019n hysbys ei bod yn bosib y bydd y Grant yn cael ei danwario.\u00a0 Gall y Cyngor yn \u00f4l ei ddisgresiwn gymeradwyo defnydd arall o\u2019r swm na wariwyd at ddibenion buddiol eraill drwy gymeradwyaeth ysgrifenedig.\u00a0 Mae cymeradwyaeth o\u2019r fath yn debygol iawn o gael ei rhoi lle bydd y Grant\u00ee yn tanwario yn sgil gwella effeithiolrwydd neu effeithlonrwydd wrth reoli adnoddau, ond mae\u2019n annhebygol y rhoddir cymeradwyaeth lle mae\u2019r tanwario yn deillio o oedi wrth gychwyn gweithgaredd a gymeradwywyd.<\/p>\n<p style=\"text-align: justify;\"><strong>48.<\/strong> Ni ddylai\u2019r Grant\u00ee gynrychioli\u2019r Grant\u00ee (gan sicrhau na fydd aelodau o\u2019i sefydliad yn gwneud hynny chwaith) mewn unrhyw ffordd, na dweud na gwneud unrhyw beth a allai arwain pobl i gredu bod y Grant\u00ee yn asiant ar ran y Cyngor neu fod y Cyngor yn gyfrifol am unrhyw atebolrwydd ar ei ran.\u00a0 Ni chaiff telerau ac amodau\u2019r Grant orfodi unrhyw atebolrwydd ar y Cyngor mewn perthynas ag unrhyw atebolrwydd yr eir iddo gan y Grant\u00ee i unrhyw berson neu endid.<\/p>\n<p style=\"text-align: justify;\"><strong>49.<\/strong> Ni fydd y Cyngor na\u2019i swyddogion na\u2019i asiantau yn atebol i unrhyw berson ar unrhyw adeg mewn perthynas ag unrhyw fater sy\u2019n codi o ran datblygu, cynllunio, adeiladu, gweithredu, rheoli a\/neu weinyddu\u2019r Project sy\u2019n derbyn cymorth Grant ac, yn benodol, ond heb fod yn gyfyngedig i hyn, ni fydd y Cyngor yn atebol i\u2019r Grant\u00ee am unrhyw golled neu ddifrod sy\u2019n deillio yn uniongyrchol neu\u2019n anuniongyrchol o ganlyniad i gydymffurfio \u00e2 thelerau ac amodau\u2019r Grant, gan gynnwys unrhyw golledion neu gostau sy\u2019n deillio o fethu \u00e2 thalu\u2019r Grant ar unrhyw ddyddiad y cytunwyd arno.<\/p>\n<p style=\"text-align: justify;\"><strong>50.<\/strong> Os yw\u2019r Grant\u00ee yn dirwyn i ben neu\u2019n cael ei ddiddymu (gan gynnwys bod yn destun gorchymyn gweinyddu); yn mynd i law\u2019r derbynnydd; yn methdalu; yn cychwyn unrhyw gyfaddawd neu drefniant arall o ran ei ddyledion gyda\u2019i gredydwyr; neu\u2019n debygol, ym marn y Cyngor, o beidio \u00e2 gallu talu unrhyw un o\u2019i ddyledion os digwydd unrhyw un o\u2019r digwyddiadau hynny, bydd gan y Cyngor yr hawl i adennill y Grant a dalwyd ar unwaith gan y Grant\u00ee ac ni fydd unrhyw arian pellach yn ddyledus neu\u2019n daladwy gan y Cyngor i&#8217;r Grant\u00ee neu i unrhyw un sy&#8217;n gweithredu ar ei gyfer neu ar ei ran neu yn ei enw. Ystyrir unrhyw gyfeiriadau at swm y Grant a dalwyd neu sydd i&#8217;w dalu i\u2019r Grant\u00ee i olygu ac i fod yn gyfyngedig i swm yr arian a dalwyd i&#8217;r Grant\u00ee gan y Cyngor ar yr adeg y digwydd unrhyw un o&#8217;r digwyddiadau y cyfeirir atynt uchod.<\/p>\n<p>[\/vc_column_text][\/vc_tta_section][vc_tta_section title=&#8221;Derbyn ac Ad-dalu Grant&#8221; tab_id=&#8221;1704282212439-7d9f8b81-8df4&#8243;][vc_column_text]<strong>51.<\/strong> Mae unrhyw gynnig Grant yn agored i\u2019w dderbyn o fewn 30 diwrnod i\u2019r dyddiad hwnnw, oni nodir yn wahanol.\u00a0 Ni fydd y Cyngor yn talu unrhyw ran o\u2019r Grant hyd nes y daw\u2019r llythyr derbyn i law. Os na cheir unrhyw lythyr derbyn o fewn yr amser hwnnw ystyrir y bydd y cynnig wedi\u2019i dynnu\u2019n \u00f4l ond gellir ei ailgynnig yn \u00f4l disgresiwn y Cyngor.<\/p>\n<p><strong>52.<\/strong> Gall y Cyngor, yn \u00f4l ei ddisgresiwn, newid, dileu neu ohirio unrhyw gymeradwyaeth grant neu ofyn am ad-daliad o unrhyw Grant a dalwyd eisoes, un ai yn ei gyfanrwydd neu yn rhannol lle:-<\/p>\n<p style=\"padding-left: 40px;\"><strong>(I)<\/strong> torrwyd unrhyw rai o\u2019r Telerau a\u2019r Amodau safonol hyn a\/neu unrhyw amodau arbennig sydd ynghlwm wrth y Grant.<\/p>\n<p style=\"padding-left: 40px;\"><strong>(II)<\/strong> bo&#8217;r Grant\u00ee yn peidio \u00e2 bodoli.<\/p>\n<p style=\"padding-left: 40px;\"><strong>(III)<\/strong> bo\u2019r Cyngor wedi\u2019i gymell i gymeradwyo\u2019r Grant o ganlyniad i unrhyw wybodaeth anghywir neu ffug a ddarparwyd gan y Grant\u00ee.<\/p>\n<p style=\"padding-left: 40px;\"><strong>(IV)<\/strong> bo\u2019r Grant\u00ee wedi methu \u00e2 hysbysu\u2019r Cyngor o unrhyw newid perthnasol i wybodaeth a ddarparwyd yn flaenorol ganddo, pan fo\u2019r Grant\u00ee neu unrhyw un o\u2019i swyddogion neu asiantau wedi ymddwyn yn anonest neu\u2019n esgeulus er niwed y project y rhoddwyd y cymorth Grant ar ei gyfer.<\/p>\n<p style=\"padding-left: 40px;\"><strong>(V)<\/strong> bo\u2019r Grant\u00ee yn newid neu\u2019n cael gwared ar ei reolwyr neu\u2019r person\u00e9l sy\u2019n gyfrifol am y project sy\u2019n derbyn cymorth Grant neu\u2019n newid y lleoliad a nodwyd yn y ffurflen gais a\u2019r Fanyleb Grant heb ganiat\u00e2d y Cyngor.<\/p>\n<p style=\"padding-left: 40px;\"><strong>(VI)<\/strong> bo\u2019r Grant\u00ee neu unrhyw un o\u2019i swyddogion neu asiantau wedi ymddwyn yn anonest neu\u2019n esgeulus er niwed y project y rhoddwyd y cymorth Grant ar ei gyfer.<\/p>\n<p style=\"padding-left: 40px;\"><strong>(VII)<\/strong> bo\u2019r Grant\u00ee yn anfodlon neu\u2019n gwneud trefniadau \u00e2\u2019i gredydwyr iddo gael ei ddiddymu (yn wirfoddol neu fel arall), ac eithrio ar gyfer adluniad dilys neu os oes derbynnydd neu reolwr yn cael ei benodi mewn perthynas \u00e2\u2019r busnes cyfan neu ran ohono, neu os digwydd unrhyw ddigwyddiadau cyfatebol.<\/p>\n<p style=\"padding-left: 40px;\"><strong>(VIII)<\/strong> bo\u2019n rhaid ad-dalu unrhyw ran o\u2019r grant dan Gyfraith Ewropeaidd (boed hynny dan Reolau Cymorth Gwladwriaethol neu fel arall).<\/p>\n<p>[\/vc_column_text][\/vc_tta_section][\/vc_tta_accordion][\/vc_column][\/vc_row]<\/p>\n<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"[vc_row][vc_column width=&#8221;1\/6&#8243; css=&#8221;.vc_custom_1704298478135{padding-top: 10% !important;}&#8221;][vc_single_image image=&#8221;251&#8243; img_size=&#8221;medium&#8221;][\/vc_column][vc_column width=&#8221;2\/3&#8243; el_class=&#8221;whitetext&#8221; css=&#8221;.vc_custom_1704280857127{padding-top: 2% !important;}&#8221;][vc_column_text css=&#8221;.vc_custom_1747045710234{background-color: #906ec8 !important;}&#8221;] Telerau ac Amodau Grant Datblygu\u2019r Gweithlu Caerdydd a Chanolfan Achrededig Cyngor Caerdydd 2025-26 [\/vc_column_text][\/vc_column][vc_column width=&#8221;1\/6&#8243; css=&#8221;.vc_custom_1704298487378{padding-top: 7% !important;}&#8221;][vc_single_image image=&#8221;6678&#8243; img_size=&#8221;large&#8221;][\/vc_column][\/vc_row][vc_row][vc_column][vc_column_text] Bydd cymeradwyo a thalu Grant neu gymorth ariannol gan y Cyngor yn amodol ar y telerau a\u2019r amodau canlynol ynghyd&#8230; <a class=\"view-article\" href=\"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/cyngor-caerdydd-datblygu-gweithle-a-telerau-amodau-grant-canolfan-achrededig\/\">View Article<\/a>","protected":false},"author":4,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"class_list":["post-6709","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6709","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6709"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6709\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":7855,"href":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6709\/revisions\/7855"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6709"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}