{"id":597,"date":"2019-10-11T13:24:47","date_gmt":"2019-10-11T13:24:47","guid":{"rendered":"https:\/\/app-cprd-familyadvice.azurewebsites.net\/?page_id=597"},"modified":"2025-11-03T15:41:03","modified_gmt":"2025-11-03T15:41:03","slug":"rhianta-caerdydd-0-18","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/rhieni-a-gofalwyr\/rhianta-caerdydd-0-18\/","title":{"rendered":"Bod yn rhiant"},"content":{"rendered":"<div class=\"wpb-content-wrapper\"><p>[vc_row content_placement=&#8221;middle&#8221;][vc_column width=&#8221;3\/4&#8243;][vc_column_text css=&#8221;&#8221;]Gall bod yn rhiant fod yn foddhaus ac yn heriol.<\/p>\n<p>Gallwn eich helpu gyda rhai o&#8217;r heriau bob dydd y byddwch chi&#8217;n eu hwynebu fel rhiant.[\/vc_column_text][\/vc_column][\/vc_row][vc_row][vc_column][vc_tta_accordion section_title_tag=&#8221;h2&#8243; color=&#8221;peacoc&#8221; spacing=&#8221;1&#8243; gap=&#8221;20&#8243; active_section=&#8221;12&#8243; no_fill=&#8221;true&#8221; collapsible_all=&#8221;true&#8221;][vc_tta_section title=&#8221;Bywyd teuluol&#8221; tab_id=&#8221;family&#8221;][vc_column_text css=&#8221;&#8221;]Awgrymiadau ar greu perthnasoedd teuluol hapus ac iach.<\/p>\n<h3>Deall ymddygiad eich plentyn<\/h3>\n<p>Mae ymddygiad plant yn aml yn adlewyrchu eu teimladau a&#8217;u hanghenion. Dyma rai ffyrdd o ymateb yn gadarnhaol:<\/p>\n<ul>\n<li>Gall fod yn heriol, ond hefyd yn ddefnyddiol myfyrio ar sut y cawsoch chi eich rhianta a sut y gallai hyn ddylanwadu ar y ffordd rydych chi&#8217;n rhianta eich plant.<\/li>\n<li>Ceisiwch bennu rheolau cyson a ffiniau cadarn ond teg i helpu&#8217;ch plentyn i deimlo&#8217;n ddiogel. Gall hyn eich helpu i reoli ei ymddygiad.<\/li>\n<li>Allwch chi ddeall sut y gallai eich plentyn fod yn teimlo? Gallai ei ymddygiad gael ei achosi gan angen nad yw&#8217;n cael ei ddiwallu. Efallai ei fod yn flinedig, yn llwglyd neu&#8217;n teimlo ei fod yn cael ei anwybyddu.<\/li>\n<li>Gwrandewch ar yr hyn y mae eich plentyn yn ceisio ei ddweud wrthych. Nid gyda geiriau yn unig, ond drwy ei weithredoedd ac iaith y corff hefyd.<\/li>\n<li>Dangoswch i&#8217;ch plentyn faint rydych chi&#8217;n ei werthfawrogi trwy dreulio amser gwerthfawr gyda&#8217;ch gilydd.<\/li>\n<li>Rhowch ganmoliaeth i&#8217;ch plentyn am yr ymddygiad rydych chi wrth eich bodd yn ei weld. Mae derbyn canmoliaeth yn gwneud i ni deimlo&#8217;n dda ac yn ein cymell i ailadrodd beth bynnag a greodd y teimladau da hynny.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae yna adnoddau gwych ar gael sy\u2019n llawn awgrymiadau a chyngor:<\/p>\n<ul>\n<li>Llywodraeth Cymru <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/magu-plant-rhowch-amser-iddo\/canllawiau-a-chyngor\/llyfrynnau-a-thaflenni-gwybodaeth-i-gefnogi-rhieni\/llyfr-ddarllen-plentyn-enedigaeth\">Llyfr Bach y Teimladau<\/a><\/li>\n<li>Cyngor ar bob oedran a chyfnod o fywyd plentyn yn <a href=\"https:\/\/families.barnardos.org.uk\/\">Barnardo&#8217;s Family Space<\/a><\/li>\n<li>Cyngor ar ymddygiad heriol gan <a href=\"https:\/\/www.youngminds.org.uk\/parent\/parents-a-z-mental-health-guide\/challenging-behaviour\/\">Young Minds<\/a><\/li>\n<li>Mae gan <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/tiny-happy-people\/cymraeg\">Cbeebies Parenting<\/a> awgrymiadau, cyngor a phodlediadau i rieni<\/li>\n<\/ul>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h3>Perthnasoedd teuluol iach<\/h3>\n<p>Gallwch feithrin perthnasoedd teuluol iach trwy dreulio amser gwerthfawr gyda&#8217;ch gilydd. Does dim angen gwario llawer o arian. Dyma rai syniadau ar gyfer hwyl rad neu am ddim:<\/p>\n<ul>\n<li>Basgedi trysor a chwarae gyda sbwriel<br \/>\nDefnyddiwch eich dychymyg a gweld beth allwch chi ei greu neu ei wneud gyda phethau fel bocsys gwag a photeli plastig.<\/li>\n<li>Cuddfan soffa<br \/>\nDefnyddiwch ddodrefn a blancedi i greu lleoedd clyd i guddio, chwarae neu fwyta byrbryd.<\/li>\n<li>Chwarae gyda d\u0175r<br \/>\nMae hyn yn cynnwys pethau syml fel llenwi ac arllwys cwpanau, sblasio yn y bath, neu mae hyd yn oed golchi\u2019r llestri yn gallu helpu gyda datblygiad plant.<\/li>\n<li>Gemau bwrdd<br \/>\nDod \u00e2&#8217;r teulu at ei gilydd a chryfhau bondiau wrth roi hwb i sgiliau pwysig. Mae gemau bwrdd yn annog cymryd tro, amynedd, datrys problemau, rhifedd, meddwl strategol a sgiliau cymdeithasol. Does dim angen setiau drud arnoch. Mae llawer o gemau clasurol yn fforddiadwy neu gallwch ddod o hyd i rai ail-law.<\/li>\n<li>Amser sinema gartref<br \/>\nDiffoddwch y goleuadau, ewch i n\u00f4l y popgorn a gwyliwch ffilm deuluol. Gallech hyd yn oed greu tocynnau a dangos gwesteion i&#8217;w seddi.<\/li>\n<li>Unrhyw beth sy&#8217;n annog hwyl a chwerthin<\/li>\n<\/ul>\n<p>Chwilio am ysbrydoliaeth? Cewch gyngor gwych ar weithgareddau y gallwch eu gwneud gartref fel teulu a&#8217;u manteision:<\/p>\n<ul>\n<li><a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/tiny-happy-people\/activities\">Cbeebies Parenting &#8211; Gweithgareddau<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.nationaltrust.org.uk\/visit\/50-things\">Ymddiriedolaeth Genedlaethol \u2013 50 peth i&#8217;w gwneud cyn troi\u2019n 11\u00be<\/a><\/li>\n<\/ul>\n<p>[\/vc_column_text][\/vc_tta_section][vc_tta_section title=&#8221;Gofalu amdanoch eich hun&#8221; tab_id=&#8221;yourself&#8221;][vc_column_text css=&#8221;&#8221;]Gall rheoli bywyd fel rhiant weithiau fod yn llethol iawn. Dyma rai awgrymiadau a chyngor ar sut i ofalu amdanoch chi&#8217;ch hun. Cofiwch, bydd gofalu amdanoch chi&#8217;ch hun o fudd i&#8217;r teulu cyfan.<\/p>\n<h3>Adnabod yr arwyddion o straen<\/h3>\n<p>Mae arwyddion cyffredin o straen yn cynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li>Diffyg amynedd<\/li>\n<li>Blinder difrifol<\/li>\n<li>Gweiddi<\/li>\n<li>Teimlo\u2019n ddagreuol<\/li>\n<li>Ddim yn cysgu&#8217;n dda<\/li>\n<li>Teimlo na allwch ymdopi<\/li>\n<li>Gorbryder<\/li>\n<\/ul>\n<p>Gall newidiadau mewn bywyd teuluol fod yn her a chreu straen. Er enghraifft:<\/p>\n<ul>\n<li>Symud t\u0177<\/li>\n<li>Newid ysgol<\/li>\n<li>Arholiadau<\/li>\n<li>Profedigaeth<\/li>\n<\/ul>\n<h3>Hunanofal i rieni<\/h3>\n<p>Cyn i chi allu rheoli teimladau ac ymddygiad eich plentyn yn ddigynnwrf, gall fod yn ddefnyddiol edrych ar sut rydych chi&#8217;n teimlo&#8217;ch hun.<\/p>\n<p>Pan fyddwch chi&#8217;n teimlo dan straen neu&#8217;n flinedig mae&#8217;n llawer anoddach gofalu am y rhai o&#8217;ch cwmpas. Ceisiwch wneud yn si\u0175r eich bod chi&#8217;n diwallu eich anghenion eich hun fel eich bod mewn gwell sefyllfa i ofalu am eraill.<\/p>\n<p>Weithiau gall deimlo fel bod bywyd yn rhy brysur i ofalu amdanoch eich hun, ond gallwch ystyried rhai o&#8217;r pethau rydych chi&#8217;n eu gwneud yn barod fel ffordd o\u2019ch tretio eich hun. Er enghraifft, cymryd amser i:<\/p>\n<ul>\n<li>gael paned o de poeth<\/li>\n<li>cael cawod<\/li>\n<li>sgwrsio gyda ffrind<\/li>\n<\/ul>\n<p>Byddwch yn wyliadwrus o symptomau straen a chymerwch ychydig eiliadau i edrych ar \u00f4l eich hun.<\/p>\n<p>Mae hefyd yn bwysig cydnabod ei bod yn gryfder gofyn am help.<\/p>\n<h3>Family Lives \u2013 Cymorth Rhianta a Chymorth i Deuluoedd<\/h3>\n<p><a href=\"https:\/\/www.familylives.org.uk\/\">Ewch i wefan Family Lives<\/a> am gyngor ymarferol a chefnogaeth emosiynol i rieni sy&#8217;n wynebu straen, gorbryder a heriau teuluol.<\/p>\n<h3>YoungMinds \u2013 Cymorth Iechyd Meddwl i Rieni<\/h3>\n<p><a href=\"https:\/\/www.youngminds.org.uk\/parent\/\">Archwiliwch adnoddau YoungMinds<\/a> lle mae canllawiau a llinell gymorth i rieni sydd dan straen wrth gefnogi lles eu plentyn.<\/p>\n<h3>NSPCC Learning \u2013 Taflenni Gwybodaeth i Rieni<\/h3>\n<p><a href=\"https:\/\/learning.nspcc.org.uk\/research-resources\/leaflets\/parent-leaflets\">Cymerwch olwg ar adnoddau NSPCC<\/a> ar strategaethau ymdopi, iechyd meddwl a lles teuluol.[\/vc_column_text][\/vc_tta_section][\/vc_tta_accordion][vc_column_text css=&#8221;&#8221;]<\/p>\n<h2>Sut gallwn ni eich helpu chi<\/h2>\n<p>Chewch wybod sut y gallwn eich cefnogi yn eich taith rhianta.[\/vc_column_text][vc_btn title=&#8221;Archwiliwch ein gwasanaethau rhianta&#8221; i_icon_fontawesome=&#8221;fa fa-brands fa-searchengin&#8221; css_animation=&#8221;fadeIn&#8221; css=&#8221;&#8221; add_icon=&#8221;true&#8221; link=&#8221;url:https%3A%2F%2Fwww.cardifffamilies.co.uk%2Fcy%2Frhieni-a-gofalwyr%2Fgwasanaethau%2F&#8221;][\/vc_column][\/vc_row]<\/p>\n<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"[vc_row content_placement=&#8221;middle&#8221;][vc_column width=&#8221;3\/4&#8243;][vc_column_text css=&#8221;&#8221;]Gall bod yn rhiant fod yn foddhaus ac yn heriol. Gallwn eich helpu gyda rhai o&#8217;r heriau bob dydd y byddwch chi&#8217;n eu hwynebu fel rhiant.[\/vc_column_text][\/vc_column][\/vc_row][vc_row][vc_column][vc_tta_accordion section_title_tag=&#8221;h2&#8243; color=&#8221;peacoc&#8221; spacing=&#8221;1&#8243; gap=&#8221;20&#8243; active_section=&#8221;12&#8243; no_fill=&#8221;true&#8221; collapsible_all=&#8221;true&#8221;][vc_tta_section title=&#8221;Bywyd teuluol&#8221; tab_id=&#8221;family&#8221;][vc_column_text css=&#8221;&#8221;]Awgrymiadau ar greu perthnasoedd teuluol hapus ac iach. Deall ymddygiad eich plentyn Mae ymddygiad plant yn&#8230; <a class=\"view-article\" href=\"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/rhieni-a-gofalwyr\/rhianta-caerdydd-0-18\/\">View Article<\/a>","protected":false},"author":1,"featured_media":8288,"parent":273,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"FeaturedImage.php","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"class_list":["post-597","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/597","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=597"}],"version-history":[{"count":15,"href":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/597\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8525,"href":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/597\/revisions\/8525"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/273"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8288"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=597"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}