{"id":5830,"date":"2022-10-06T10:03:36","date_gmt":"2022-10-06T10:03:36","guid":{"rendered":"https:\/\/app-cprd-familyadvice.azurewebsites.net\/?page_id=5830"},"modified":"2026-02-25T09:50:57","modified_gmt":"2026-02-25T09:50:57","slug":"telerau-ac-amodau-datblygur-gweithlu-gofal-plant","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/proffesiynol\/datblygur-gweithlu-ar-ganolfan-achrededig\/telerau-ac-amodau-datblygur-gweithlu-gofal-plant\/","title":{"rendered":"Telerau ac amodau a chod ymddygiad Datblygu&#8217;r Gweithlu Gofal Plant"},"content":{"rendered":"<div class=\"wpb-content-wrapper\"><p>[vc_row][vc_column][vc_column_text css=&#8221;&#8221;]Darllenwch y telerau ac amodau hyfforddi a&#8217;r cod ymddygiad.[\/vc_column_text][\/vc_column][\/vc_row][vc_row][vc_column][vc_tta_accordion section_title_tag=&#8221;h2&#8243; color=&#8221;peacoc&#8221; spacing=&#8221;1&#8243; gap=&#8221;20&#8243; active_section=&#8221;12&#8243; no_fill=&#8221;true&#8221; collapsible_all=&#8221;true&#8221;][vc_tta_section title=&#8221;Telerau ac amodau &#8221; tab_id=&#8221;terms&#8221;][vc_column_text css=&#8221;&#8221;]Darllenwch y telerau ac amodau.<\/p>\n<h3>Meini prawf cymhwysedd<\/h3>\n<p>Mae\u2019r rhaglen hyfforddi wedi ei llunio i fodloni&#8217;r gofynion ar gyfer y Safonau Gofynnol Cenedlaethol. Fe&#8217;i cynlluniwyd hefyd i gefnogi Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP). Llunir y rhaglen ar sail canlyniadau Dadansoddiad Anghenion Hyfforddiant blynyddol (DAH). Ariennir y rhaglen hon gan Dechrau\u2019n Deg Caerdydd. Nodir isod yr amodau ar gyfer mynychu unrhyw un o&#8217;r cyrsiau yn y rhaglen hyfforddi ynghyd \u00e2&#8217;r wybodaeth am gadw lle.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r hyfforddiant hwn ar gael i holl weithwyr gofal plant yn y sector gofal plant nas cynhelir, sy&#8217;n gweithio mewn lleoliad yn ardal Caerdydd ar hyn o bryd a gall gynnwys gwirfoddolwyr a darparwyr heb eu cofrestru mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar a gofal plant.\u00a0 Cynghorir pob lleoliad gofal plant cofrestredig i fod yn aelodau o sefydliadau ymbar\u00e9l gan y byddai hyfforddiant a budd-daliadau eraill ar gael wedyn.<\/p>\n<h3>Cyfrifoldeb y lleoliad gofal plant<\/h3>\n<p>Rhaid i&#8217;r rheolwr llinell a bennwyd i gadw&#8217;r lleoedd hyfforddi sicrhau ei fod ond yn cadw lle ar gyfer staff a ddyrennir i&#8217;w lleoliad gofal plant nhw.<\/p>\n<p>Rhaid i&#8217;r rhai sy&#8217;n mynychu gadw at ein Cod Ymddygiad.\u00a0 Gall methu \u00e2 gwneud hynny efallai olygu na chaiff yr unigolyn fynychu cyrsiau yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n bosib y bydd cyrsiau hyfforddi yn cael eu hychwanegu at y rhaglen trwy gydol y flwyddyn. Gwnewch yn si\u0175r eich bod yn edrych ar yr holl ohebiaeth gan Ddatblygu\u2019r Gweithlu Caerdydd yn rheolaidd i gael manylion a diweddariadau. Gallwch ofyn am gael eich ychwanegu at ein rhestr bostio trwy anfon e-bost atom yn <a href=\"mailto:workforcedevelopment@cardiff.gov.uk\">DatblygurGweithlu@caerdydd.gov.uk<\/a><\/p>\n<p>Cyfrifoldeb y rheolwr llinell yw egluro&#8217;r broses hyfforddi i&#8217;w staff. Rhaid i reolwyr sy&#8217;n darparu cyfeiriadau e-bost a\/neu rifau ff\u00f4n symudol eu staff sicrhau bod staff yn ymwybodol o&#8217;r rhesymau dros hyn ac yn cytuno i&#8217;w data gael ei ddefnyddio gan Gyngor Caerdydd. <a href=\"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cardiff-early-help-workforce-development-accredited-centre-privacy-notice\/?cn-reloaded=1\">Darllen hysbysiad preifatrwydd y Ganolfan Datblygu ac Achredu&#8217;r Gweithlu<\/a>.<\/p>\n<p>Sicrhewch fod y manylion a ddarperir yn gywir ac yn gyfredol, anfonir pob gohebiaeth ar e-bost i&#8217;r cyfeiriad e-bost a ddarperir wrth gadw lle.<\/p>\n<p>Os oes angen i chi amnewid mynychwr ar gwrs, rhaid cwblhau hyn o fewn 24 awr cyn dyddiad ac amser dechrau\u2019r cwrs. Gall rheolwyr llinell amnewid aelodau o staff sydd ar gwrs drwy gysylltu \u00e2 Datblygu\u2019r Gweithlu Caerdydd. Gallai methu ag amnewid aelodau o staff cyn cwrs arwain at wrthod mynediad i&#8217;n safle a hefyd i\u2019r cwrs hyfforddi.<\/p>\n<p>Gwrthodir mynediad ar ddechrau\u2019r hyfforddiant i unigolion nad ydynt ar y rhestr bresenoldeb.<\/p>\n<p>Cyfrifoldeb y mynychwr yw darllen a deall y canllawiau Iechyd a Diogelwch yn llawn yn yr ystafelloedd hyfforddi.<\/p>\n<p>Cyfrifoldeb y rheolwr llinell yw rhoi gwybod i Datblygu\u2019r Gweithlu Caerdydd cyn i&#8217;r cwrs gael ei gynnal os bydd angen cymorth ychwanegol i gwblhau\u2019r cwrs yn llwyddiannus ar unrhyw un sy&#8217;n mynychu.<\/p>\n<h3>Cadw Lle<\/h3>\n<p>Rhaid gwneud pob archeb drwy gysylltu \u00e2 Datblygu\u2019r Gweithlu Caerdydd drwy DatblygurGweithlu@caerdydd.gov.uk<\/p>\n<p>Dim ond t\u00eem Datblygu&#8217;r Gweithlu all wneud newidiadau, cysylltwch ag aelod o&#8217;r t\u00eem os oes angen cymorth arnoch.<\/p>\n<p>Cofiwch y gellid gosod cyfyngiadau ar niferoedd yr archebion sydd ar gael ar gyfer pob t\u00eem fesul cwrs.<\/p>\n<p>Bydd rhestrau wrth gefn yn cael eu cynnal ar y pwynt gwneud cais os yw&#8217;r cwrs yn llawn. Bydd Datblygu&#8217;r Gweithlu Caerdydd yn cysylltu \u00e2&#8217;r lleoliad perthnasol os a phan fydd lleoedd ar gael.<\/p>\n<h3>Polisi talu a chanslo<\/h3>\n<p>Rhaid talu am bob lle cyn y cynhelir y cwrs trwy daliad cerdyn debyd\/credyd dros y ff\u00f4n.<\/p>\n<p>Bydd angen i leoliadau gofal plant Awdurdod Lleol gyflwyno&#8217;u codau cost wrth archebu er mwyn prosesu taliad drwy drosglwyddiad \u2018journal\u2019. Dylai cofnodion y trafodion hyn gael eu cadw gan y lleoliad gofal plant.<\/p>\n<p>Bydd cadarnhad o&#8217;r archeb yn cael ei anfon i&#8217;r cyfeiriad e-bost a roddwyd adeg cadarnhau archeb. Caiff derbynneb ei chyflwyno hefyd gan Borthol Taliadau Capita. Dylai\u2019r lleoliad ei chadw ar gyfer cofnodion ariannol.<\/p>\n<p>Caiff ad-daliadau eu rhoi dim ond os caiff lle ei ganslo o leiaf saith diwrnod cyn i\u2019r cwrs ddechrau. Ni fydd eithriad i\u2019r rheol hon.<\/p>\n<p>Ar gyfer achosion o Covid 19 wedi&#8217;u cadarnhau, dim ond ar \u00f4l derbyn cadarnhad swyddogol o ganlyniad positif ar safle adrodd Gov.UK y rhoddir ad-daliad neu y gellir trosglwyddo lle.<\/p>\n<p>Gall lleoliadau amnewid yr aelodau o staff ar gyrsiau hyd at y diwrnod cyn i\u2019r cwrs ddechrau.<\/p>\n<p>Gallwch newid eich archeb i gwrs hwyrach, ar yr amod eich bod yn rhoi gwybod o leiaf saith diwrnod cyn i&#8217;r cwrs ddechrau. I newid archeb cysylltwch \u00e2 th\u00eem Datblygu\u2019r Gweithlu.<\/p>\n<p>Ar gyfer lleoliadau Dechrau&#8217;n Deg nad ydynt yn dilyn y polisi canslo a nodir uchod, neu lle mae achosion o beidio \u00e2 mynychu gan staff gofal plant Dechrau&#8217;n Deg, yn unol \u00e2 thelerau Manyleb Gwasanaeth Dechrau&#8217;n Deg, codir y ffi mynychu safonol ar y lleoliad. Ni fydd eithriad i\u2019r rheol hon.<\/p>\n<p>Os bydd Datblygu\u2019r Gweithlu yn canslo cwrs am unrhyw reswm, rhoddir ad-daliadau.<\/p>\n<p>Mae Datblygu\u2019r Gweithlu a\u2019u partneriaid hyfforddi yn cadw\u2019r hawl i wrthod mynediad i fynychwyr os nad oes taliad wedi dod i law cyn yr hyfforddiant.[\/vc_column_text][\/vc_tta_section][vc_tta_section title=&#8221;Cod Ymddygiad i Ddysgwyr &#8221; tab_id=&#8221;code&#8221;][vc_column_text css=&#8221;&#8221;]Nod Datblygu&#8217;r Gweithlu yw cyflwyno safonau uchel o hyfforddiant o ansawdd fydd yn arwain, ysbrydoli a chefnogi holl gyfranogwyr y cwrs.<\/p>\n<p>Ein nod yw creu awyrgylch o frwdfrydedd a chyd-gefnogaeth a pharch rhwng staff y ganolfan, hyfforddwyr a&#8217;r mynychwyr er mwyn manteisio i\u2019r eithaf ar brofiadau a chanlyniadau dysgu&#8217;r unigolyn.<\/p>\n<p>Anogir pob hyfforddwr a dysgwr i ystyried a gwrando ar safbwyntiau ei gilydd.\u00a0 Cofiwch fod yr hyfforddwyr yn arbenigwyr yn eu maes penodol ac felly gofynnwn i chi barchu hyn. Fodd bynnag, mae eich barn a&#8217;ch profiadau yn bwysig ac anogir cyfranogiad cadarnhaol.<\/p>\n<p>Gofynnwn hefyd i chi wneud eich hun yn ymwybodol o iechyd a diogelwch, trwy fod yn ymwybodol o gyfleusterau ac o weithdrefnau brys.<\/p>\n<p>Gofynnwn am gydweithrediad yr holl gyfranogwyr i gadw at ein Cod Ymddygiad er mwyn sicrhau bod y digwyddiad hyfforddi&#8217;n cael ei gynnal yn llwyddiannus o fewn amgylchedd diogel. Gall methu \u00e2 chadw at hyn arwain at waharddiad o gyrsiau hyfforddi yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Llenwch ein ffurflenni gwerthuso cwrs ar ddiwedd y sesiwn hyfforddi. Rydym yn croesawu unrhyw adborth sydd gennych i&#8217;n galluogi i ddatblygu a gwella ein gwasanaeth ymhellach.<\/p>\n<p>Siaradwch \u00e2&#8217;r hyfforddwr os ydych yn teimlo y gallech elwa o gymorth sgiliau hanfodol.\u00a0 Bydd yr hyfforddwr yn trafod pob opsiwn cymorth sydd ar gael i chi mewn modd cyfrinachol.<\/p>\n<p>Peidiwch \u00e2 defnyddio eich ffonau symudol yn ystod yr hyfforddiant.\u00a0 Os ydych chi&#8217;n disgwyl galwad frys, dwedwch wrth yr hyfforddwr ar ddechrau&#8217;r sesiwn.[\/vc_column_text][\/vc_tta_section][\/vc_tta_accordion][\/vc_column][\/vc_row]<\/p>\n<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"[vc_row][vc_column][vc_column_text css=&#8221;&#8221;]Darllenwch y telerau ac amodau hyfforddi a&#8217;r cod ymddygiad.[\/vc_column_text][\/vc_column][\/vc_row][vc_row][vc_column][vc_tta_accordion section_title_tag=&#8221;h2&#8243; color=&#8221;peacoc&#8221; spacing=&#8221;1&#8243; gap=&#8221;20&#8243; active_section=&#8221;12&#8243; no_fill=&#8221;true&#8221; collapsible_all=&#8221;true&#8221;][vc_tta_section title=&#8221;Telerau ac amodau &#8221; tab_id=&#8221;terms&#8221;][vc_column_text css=&#8221;&#8221;]Darllenwch y telerau ac amodau. Meini prawf cymhwysedd Mae\u2019r rhaglen hyfforddi wedi ei llunio i fodloni&#8217;r gofynion ar gyfer y Safonau Gofynnol Cenedlaethol. Fe&#8217;i cynlluniwyd hefyd i gefnogi Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP). Llunir&#8230; <a class=\"view-article\" href=\"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/proffesiynol\/datblygur-gweithlu-ar-ganolfan-achrededig\/telerau-ac-amodau-datblygur-gweithlu-gofal-plant\/\">View Article<\/a>","protected":false},"author":4,"featured_media":0,"parent":6747,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"FeaturedImage.php","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"class_list":["post-5830","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/5830","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5830"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/5830\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8698,"href":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/5830\/revisions\/8698"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6747"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5830"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}