{"id":5615,"date":"2022-02-10T11:09:38","date_gmt":"2022-02-10T11:09:38","guid":{"rendered":"https:\/\/app-cprd-familyadvice.azurewebsites.net\/?page_id=5615"},"modified":"2026-04-17T10:31:47","modified_gmt":"2026-04-17T10:31:47","slug":"polisi-preifatrwydd-gwasanaethau-rhianta-caerdydd","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/rhieni-a-gofalwyr\/rhianta-caerdydd-0-18\/polisi-preifatrwydd-gwasanaethau-rhianta-caerdydd\/","title":{"rendered":"Polisi Preifatrwydd Gwasanaethau Rhianta Caerdydd"},"content":{"rendered":"<div class=\"wpb-content-wrapper\"><p>[vc_row][vc_column][vc_column_text css=&#8221;&#8221;]Mae Gwasanaethau Rhianta Caerdydd yn rhan o Gyngor Caerdydd, sef y Rheolwr Data at ddibenion y data sy\u2019n cael ei gasglu. Bydd y polisi preifatrwydd hwn yn esbonio sut mae ein sefydliad yn defnyddio&#8217;r data personol a gasglwn gennych pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan neu wasanaeth.<\/p>\n<p>Pynciau:<\/p>\n<ul>\n<li>Pa ddata rydym yn ei gasglu a pham?<\/li>\n<li>Sut rydym yn casglu eich data?<\/li>\n<li>Sut byddwn yn defnyddio eich data?<\/li>\n<li>Sut rydym yn storio eich data?<\/li>\n<li>Gyda phwy rydym yn rhannu eich data?<\/li>\n<li>Beth yw eich hawliau diogelu data?<\/li>\n<li>Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich data<\/li>\n<li>Polis\u00efau preifatrwydd ar gyfer gwefannau eraill<\/li>\n<li>Newidiadau i&#8217;n polisi preifatrwydd<\/li>\n<li>Sut i gysylltu \u00e2 ni<\/li>\n<li>Sut i gysylltu \u00e2\u2019r awdurdodau priodol<\/li>\n<\/ul>\n<h2>Pa ddata rydym yn ei gasglu?<\/h2>\n<p>Er mwyn ein galluogi i ddarparu ein gwasanaethau i chi, bydd angen i Wasanaethau Rhianta Caerdydd gasglu a phrosesu eich data personol. Mae hyn yn cynnwys y canlynol, ymhlith eraill;<\/p>\n<ul>\n<li>Eich enw a\u2019ch dyddiad geni<\/li>\n<li>Enwau a dyddiadau geni eich plentyn neu blant<\/li>\n<li>Eich gwybodaeth gyswllt, fel eich cyfeiriad cartref, eich cyfeiriad e-bost a&#8217;ch rhif ff\u00f4n<\/li>\n<li>Gwybodaeth amdanoch chi a\/neu&#8217;ch teulu, sy&#8217;n ofynnol er mwyn darparu&#8217;r gwasanaeth i chi.\u00a0 Er enghraifft; unrhyw help a chefnogaeth sydd eu hangen arnoch chi a\/neu&#8217;ch teulu ac unrhyw bryderon sydd gennych amdanoch chi eich hun a\/neu eich teulu, unrhyw weithwyr proffesiynol eraill a allai fod yn gweithio gyda chi neu sydd wedi gweithio gyda chi yn y gorffennol.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae\u2019r data Categori Arbennig a gasglwn yn cynnwys;<\/p>\n<ul>\n<li>Hil\/Tarddiad Ethnig<\/li>\n<li>Gwybodaeth iechyd corfforol a\/neu iechyd meddwl<\/li>\n<li>Gwybodaeth ddemograffig, a all gynnwys gwybodaeth am aelodau o&#8217;r teulu a&#8217;r ardal y maent yn byw ynddi, lle bo angen hynny ar wasanaeth perthnasol<\/li>\n<li>Rhywedd<\/li>\n<\/ul>\n<p>Caiff y wybodaeth hon ei chasglu er mwyn darparu\u2019r Gwasanaeth i chi a\/neu eich teulu.\u00a0\u00a0 Gall hyn olygu creu proffil ar PARIS sef y system recordio achosion sy&#8217;n cael ei defnyddio.<\/p>\n<p>Os ydych wedi rhoi data personol i ni am unigolion eraill, megis aelodau\u2019r teulu neu bobl ddibynnol, sicrhewch fod yr unigolion hynny yn gwybod am y wybodaeth yn yr hysbysiad hwn.<\/p>\n<h2>Sut rydym yn casglu eich data?<\/h2>\n<p>Gallwn gasglu eich data personol yn unrhyw un o&#8217;r ffyrdd canlynol;<\/p>\n<ul>\n<li>Rydym yn cael eich data personol gennych chi eich hun.\u00a0 Bydd hyn ar ffurflenni ysgrifenedig, a sgyrsiau gyda chi.<\/li>\n<li>Rydym yn cael eich data personol gan unrhyw weithwyr proffesiynol allweddol sy&#8217;n gweithio gyda chi, fel gweithwyr iechyd, addysg, gwasanaethau plant a gweithwyr cymorth cynnar proffesiynol eraill. Bydd hyn ar ffurf ffurflenni atgyfeirio a sgyrsiau gyda gweithwyr proffesiynol allweddol, neu drwy edrych ar wybodaeth sydd wedi\u2019i chofnodi ar system TG y Gwasanaethau Plant*.\n<ul>\n<li>*Gwasanaethau Plant (e.e., Gweithiwr Cymdeithasol neu drwy weld gwybodaeth a gofnodwyd ar system TG y Gwasanaethau Plant)<\/li>\n<\/ul>\n<\/li>\n<\/ul>\n<p>Efallai y bydd Gwasanaethau Rhianta Caerdydd hefyd yn cael eich data yn anuniongyrchol o&#8217;r ffynonellau canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (e.e. Ymwelydd Iechyd, Meddyg Teulu, Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl)<\/li>\n<li>Y Gyfarwyddiaeth Addysg (e.e. Ysgol)<\/li>\n<li>Sefydliadau a gomisiynwyd gan Gyngor Caerdydd e.e. Barnardo\u2019s Family Wellbeing, HomeStart<\/li>\n<li>Gwasanaethau Plant (e.e. Gweithiwr Cymdeithasol)<\/li>\n<li>Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd (e.e. Porth Teuluoedd, Helpu Teuluoedd)<\/li>\n<li>Dechrau&#8217;n Deg<\/li>\n<li>Cymorth Cynnar<\/li>\n<li>Gwasanaethau mewnol eraill y Cyngor efallai y bydd angen i ni rannu eich data personol \u00e2 nhw er mwyn darparu&#8217;r gwasanaeth i chi.<\/li>\n<li>Sefydliadau, cyrff, gweithwyr a gofalwyr a all helpu a chefnogi eich anghenion o bosibl<\/li>\n<\/ul>\n<h2>Sut byddwn yn defnyddio eich data?<\/h2>\n<p>Mae Gwasanaethau Rhianta Caerdydd yn casglu eich data fel y gallwn ddarparu ein gwasanaethau i chi a&#8217;ch teulu.<\/p>\n<h2>Gyda phwy rydym yn rhannu eich data?<\/h2>\n<p>Rhennir eich data personol \u00e2&#8217;r sefydliadau partner a restrir;<\/p>\n<ul>\n<li>Ein staff \u2013 lle mae&#8217;r wybodaeth yn cyfrannu at eu gwaith gyda chi<\/li>\n<li>Gwasanaethau Awdurdodau Lleol Eraill e.e. addysg, gwasanaethau plant<\/li>\n<li>Gwasanaethau a Gomisiynir gan yr Awdurdod Lleol e.e. Gwasanaeth Lles Teuluoedd, HomeStart<\/li>\n<li>Gwasanaethau Iechyd e.e. Ymwelydd Iechyd, Meddyg Teulu, Bwrdd Iechyd Caerdydd a&#8217;r Fro (y BIP)<\/li>\n<li>Y Llysoedd \u2013 o dan gyfarwyddyd Gorchymyn Llys<\/li>\n<\/ul>\n<p>Byddwn ar adegau yn rhannu data dienw gyda Phrifysgolion ar gyfer ymchwil a gwerthuso, i gwella ein gwasanaethau i deuluoedd.<\/p>\n<p>Rhennir y data hwn at ddibenion:<\/p>\n<ul>\n<li>bodloni anghenion eich plentyn neu&#8217;ch teulu<\/li>\n<li>trafod atgyfeiriad i wasanaeth arall<\/li>\n<li>gwerthuso a gwella ein Gwasanaeth<\/li>\n<\/ul>\n<h2>Sut rydym yn storio eich data?<\/h2>\n<p>Mae Gwasanaethau Rhianta Caerdydd yn cadw eich data yn ddiogel ar y system rheoli achosion, PARIS, sy\u2019n system cofnodion clinigol a weithredir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a&#8217;r Fro.\u00a0 Nodir gwybodaeth am gyfnodau cadw\u2019r cofnodion hyn yn y <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/sites\/default\/files\/publications\/2022-03\/cod%20ymarfer%20rheoli%20cofnodion%20iechyd%20a%20gofal%20cymdeithasol%202022.pdf\"><strong><em>Cod Ymarfer Rheoli Cofnodion Iechyd a Gofal Cymdeithasol<\/em><\/strong><\/a><strong><em>.<\/em><\/strong><\/p>\n<p>Bydd unrhyw wybodaeth na chedwir yn PARIS yn cael ei chadw&#8217;n ddiogel gan Gyngor Caerdydd ar ein cyfrifiaduron a\/neu gabinetau ffeilio dan glo. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei chadw yn unol ag amserlen gadw gorfforaethol Cyngor Caerdydd.<\/p>\n<p>Byddwn ond yn cadw eich data personol cyn hired ag sydd ei angen er mwyn cyflawni\u2019r diben(ion) y cafodd ei gasglu ar ei gyfer ac am gyfnod yr ydym yn ei ystyried yn angenrheidiol i ymdrin ag unrhyw gwestiynau neu gwynion y byddwn yn eu derbyn, oni bai y dewiswn gadw eich data am gyfnod hwy i gydymffurfio \u00e2\u2019n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoliadol.\u00a0 Pan fydd y cyfnod hwn wedi dod i ben, byddwn yn dileu eich data.<\/p>\n<h2>Beth yw eich hawliau diogelu data?<\/h2>\n<p>Hoffai Gwasanaethau Rhianta Caerdydd wneud yn si\u0175r eich bod yn gwbl ymwybodol o&#8217;ch holl hawliau diogelu data. Mae gan bob defnyddiwr hawl i&#8217;r canlynol:<\/p>\n<p><strong>Yr hawl i gael mynediad<\/strong> \u2013 Mae gennych hawl i ofyn i Wasanaethau Rhianta Caerdydd am gop\u00efau o&#8217;ch data personol.<\/p>\n<p><strong>Yr hawl i gywiro<\/strong> \u2013 Mae gennych hawl i ofyn i Wasanaethau Rhianta Caerdydd gywiro unrhyw wybodaeth sy&#8217;n anghywir yn eich barn chi.\u00a0 Mae gennych hefyd hawl i ofyn i Wasanaethau Rhianta Caerdydd gwblhau&#8217;r wybodaeth sy&#8217;n anghyflawn yn eich barn chi.<\/p>\n<p><strong>Yr hawl i ddileu<\/strong> \u2013 Mae gennych hawl i ofyn i Wasanaethau Rhianta Caerdydd ddileu eich data personol, dan rai amodau.<\/p>\n<p><strong>Yr hawl i gyfyngu prosesu<\/strong> \u2013 Mae gennych hawl i ofyn i Wasanaethau Rhianta Caerdydd gyfyngu ar brosesu eich data personol, dan rai amodau.<\/p>\n<p><strong>Yr hawl i wrthwynebu prosesu<\/strong> \u2013 Mae gennych hawl i wrthwynebu i Wasanaethau Rhianta Caerdydd brosesu eich data personol, dan rai amodau.<\/p>\n<p><strong>Yr hawl i gludo data<\/strong> \u2013 Mae gennych hawl i ofyn i Wasanaethau Rhianta Caerdydd drosglwyddo&#8217;r data yr ydym wedi&#8217;i gasglu i sefydliad arall, neu&#8217;n uniongyrchol i chi, dan rai amodau.<\/p>\n<p>Os gwnewch gais, bydd gennym un mis i ymateb i chi. Os hoffech arfer unrhyw un o&#8217;r hawliau hyn, cysylltwch \u00e2 ni ar ein cyfeiriad e-bost:<\/p>\n<p>Cysylltwch \u00e2 ni drwy HawliauUnigolion@caerdydd.gov.uk os hoffech wneud cais.<\/p>\n<p><strong>Ein sail gyfreithlon<\/strong><\/p>\n<p>Ein sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich data personol yn gyffredinol fydd y canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>Tasg Gyhoeddus: Byddwn yn prosesu eich data personol i gwblhau tasg er budd y cyhoedd neu i arfer awdurdod swyddogol sydd gennym fel corff cyhoeddus<\/li>\n<li>Buddiant Allweddol i Fywyd &#8211; Er mwyn diogelu buddiannau hanfodol gwrthrych y data neu fod dynol arall os bydd argyfwng neu lle mae pryderon diogelu yn codi.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae tudalen we Gwasanaethau Rhianta Caerdydd yn cynnwys dolenni i wefannau eraill.\u00a0 Dim ond i&#8217;n gwefan ni y mae ein polisi preifatrwydd yn berthnasol, felly os byddwch yn clicio ar ddolen i wefan arall, dylech ddarllen eu polisi preifatrwydd nhw.<\/p>\n<h2>Newidiadau i&#8217;n polisi preifatrwydd<\/h2>\n<p>Mae Gwasanaethau Rhianta Caerdydd yn adolygu eu polisi preifatrwydd yn rheolaidd ac yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen we hon. Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf yn Ebrill 2023.<\/p>\n<h2>Sut i gysylltu \u00e2 ni<\/h2>\n<p>Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am bolis\u00efau preifatrwydd Gwasanaethau Rhianta Caerdydd neu\u2019r data rydym yn ei gadw amdanoch chi, neu os hoffech arfer un o\u2019ch hawliau diogelu data, mae croeso i chi gysylltu \u00e2 ni.<\/p>\n<p>Swyddog Diogelu Data<br \/>\nT\u00eem Llywodraethu Gwybodaeth<br \/>\nNeuadd y Sir<br \/>\nGlanfa&#8217;r Iwerydd<br \/>\nCaerdydd<br \/>\nCF10 4UW<\/p>\n<p><a href=\"mailto:dataprotection@cardiff.gov.uk\">diogeludata@caerdydd.gov.uk<\/a><\/p>\n<h2>Sut i gysylltu \u00e2\u2019r awdurdod priodol<\/h2>\n<p>Os hoffech gyflwyno cwyn neu os teimlwch nad yw Gwasanaethau Rhianta Caerdydd wedi mynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;ch pryder mewn modd boddhaol, gallwch gysylltu \u00e2 Swyddfa&#8217;r Comisiynydd Gwybodaeth drwy eu gwefan <a href=\"https:\/\/ico.org.uk\/concerns\/getting\/\">https:\/\/ico.org.uk\/concerns\/getting\/<\/a> neu drwy ffonio 0303 123 1113.[\/vc_column_text][\/vc_column][\/vc_row]<\/p>\n<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"[vc_row][vc_column][vc_column_text css=&#8221;&#8221;]Mae Gwasanaethau Rhianta Caerdydd yn rhan o Gyngor Caerdydd, sef y Rheolwr Data at ddibenion y data sy\u2019n cael ei gasglu. Bydd y polisi preifatrwydd hwn yn esbonio sut mae ein sefydliad yn defnyddio&#8217;r data personol a gasglwn gennych pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan neu wasanaeth. Pynciau: Pa ddata rydym yn ei gasglu&#8230; <a class=\"view-article\" href=\"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/rhieni-a-gofalwyr\/rhianta-caerdydd-0-18\/polisi-preifatrwydd-gwasanaethau-rhianta-caerdydd\/\">View Article<\/a>","protected":false},"author":4,"featured_media":0,"parent":597,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"class_list":["post-5615","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/5615","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5615"}],"version-history":[{"count":8,"href":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/5615\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8860,"href":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/5615\/revisions\/8860"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/597"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.cardifffamilies.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5615"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}