Gwasanaeth Rhieni a Mwy a Gwasanaeth Rhieni yn Gyntaf a Arweinir gan Seicoleg

Cefnogi plant ifanc gyda’u teimladau yn ystod cyfnod ansicr

Y broblem gyda Chwestiynau

Gall fod yn anodd i blant ifanc ateb cwestiynau fel:

  • ‘Beth wyt ti’n ei deimlo?’ ‘
  • Pam wyt ti’n gwneud hynny?’

Dydyn nhw ‘ddim wastad yn gwybod pam maen nhw wedi gwneud rhywbeth ac yn meddu ar y geiriau i esbonio sut maen nhw’n teimlo.

Manteision Meddwl am ac Enwi Teimladau

Gall plant gael budd ohonon ni’n meddwl am eu teimladau a rhoi enw arnyn nhw.

Mae bod yn agored ac yn chwilfrydig am eu teimladau yn lleihau’r straen sydd ar blentyn.

Efallai na fyddwn yn cael pethau’n iawn bob tro, ac efallai na ddeallan nhw ein geiriau i gyd, ond ydd ein tôn llais ac iaith y corff yn dangos iddyn nhw ein bod ni’n gwneud ein gorau i’w deall.

Bydd hyn yn eu helpu i ddeall eu teimladau eu hunain a’u helpu i ddatblygu’r geiriau i ddweud wrth bobl sut maen nhw’n teimlo wrth dyfu’n hŷn.

Mae yr un mor ddefnyddiol meddwl am a sylwi ar bethau cadarnhaol, yn ogystal â negyddol.

Enghreifftiau o Feddwl am a Rhoi Enw ar Deimladau

Rwy’n credu efallai fy fod ti’n teimlo’n drist achos dy fod ti’n gweld eisiau mam-gu – beth am i ni roi galwad iddi.

Rwyt ti’n taflu pethau. Rwy’n meddwl dy fod ti’n teimlo’n ofidus ac yn grac iawn ar hyn o bryd. Mae’n iawn i deimlo hynny ond dyw hi ddim yn iawn brifo pobl, gad i ni roi’r rhain i gadw tan nes ymlaen.

Am wên hyfryd. Rwy’n credu dy fod ti’n hapus iawn fy ngweld i.

Crëwyd gan Seicolegwyr Addysg Gwasanaeth Rhianta Caerdydd

Am ragor o wybodaeth neu gymorth cysylltwch â’ch Ymwelydd Iechyd neu Borth i Deuluoedd Caerdydd:

Ffôn: 03000 133 133

E-bost: CyswlltFAS@Caerdydd.gov.uk

Ar-lein: www.cardifffamilies.co.uk/cy/

Addaswyd o ‘Fact sheet for parents: coronavirus/children/ mental health’

Cymdeithas Iechyd Meddwl Plant Bach (Ebrill 2020)

Cardiff Council dragon logo
Cardiff Flying Start