Rhieni a gofalwyr

Gall bod yn rhiant fod yn heriol a gwerth chweil ar yr un pryd.

Mae disgwyl i rieni wybod cymaint o bethau, ac yn aml mae angen ymateb yn gynt i’r pethau mwyaf cymhleth.

Fel rhiant, nid yw’n bosibl cael yr holl atebion bob amser.

Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn deall hyn, ac felly byddwn wrth law gyda’r cymorth sydd ei angen arnoch, pan fydd ei angen arnoch.

A Happy Muslim family Portrait

Cysylltwch â ni

Gallwch chi ein ffonio ar 03000 133 133 a bydd ymgynghorwyr yn gwrando ar eich cwestiynau a cheisio cynnig cyngor a gwybodaeth ddefnyddiol.

Anfonwch e-bost a bydd rhywun yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib CyswlltFAS@caerdydd.gov.uk

Beth Nesaf? Eich Bywyd. Eich Dyfodol.

Gwefan i bobl ifanc, sy’n cynnal darpariaeth a chyfleoedd sydd ar gael yng Nghaerdydd.

Ydych chi’n rhiant neu’n ofalwr i berson ifanc 16-24 oed?

Trwy ddefnyddio ‘Beth Nesaf?’, gallwch ei helpu i archwilio eu hopsiynau i mewn i’r gwaith a theimlo’n fwy hyderus am ei ddyfodol. Mae’r llwyfan ‘Beth Nesaf?’ yn rhestru amrywiaeth cyffrous o gyfleoedd I helpu pobl ifanc ddechrau ar yrfaoedd boddhaus:

  • Addysg
  • Prentisiaethau
  • Hyfforddiant
  • Gwirfoddoli

I gael gwybod mwy, ewch I www.caerdydd.gov.uk/bethnesaf

Cyngor a chymorth arall:

Mae Rhianta Caerdydd 0-18 ar gyfer unrhyw deulu sy’n disgwyl plentyn neu sydd â phlentyn neu berson ifanc rhwng 0 a 18 oed ac yn byw yng Nghaerdydd.

Gellir dod o hyd i wybodaeth ychwanegol am Riantau yng Nghaerdydd ar Dewis Cymru

Cefnogir Tai Caerdydd gan Gyngor Caerdydd a Chymdeithasau Tai Caerdydd, Cadwyn, Cymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd, Hafod, Linc, Newydd, Cymdeithas Tai Taf, Unedig Cymru a Thai Wales & West. Mae’r wefan yn cynnig gwybodaeth am lety rhent a fforddiadwy yng Nghaerdydd, gan gynnwys Rhestr Aros Tai Caerdydd, Cynlluniau Perchnogaeth Cartref â Chymorth a Llety Rhent Preifat. Mae’n ceisio helpu’r rheini sy’n edrych am dŷ i wneud gwahaniaeth am yr opsiwn mwyaf addas iddyn nhw.

Gellir dod o hyd i wybodaeth ychwanegol am Tai yng Nghaerdydd ar Dewis Cymru

Help gyda rheoli eich arian a’ch dyledion.

Gall delio â materion ariannol beri dryswch, ond os nad ydych yn deall sut mae pethau fel credyd neu forgeisi’n gweithio, gallech fod ar eich colled yn ariannol neu’ch cael eich i ddyled.

Os ydych yn cael trafferth i reoli eich arian, gallwn gynnig help a chefnogaeth mewn nifer o feysydd fel cyllidebu, cynyddu incwm a rheoli dyledion.

Mae hybiau’n cynnig nifer o wasanaethau dan un to o gyngor, budd-daliadau a thai yn ogystal â digwyddiadau, hyfforddiant a mynediad i’r rhyngrwyd.

Gellir dod o hyd i wybodaeth ychwanegol am Arian yng Nghaerdydd ar Dewis Cymru

Dewch o hyd i ofal plant cofrestredig yng Nghaerdydd

Photo of a Child Playing With Toy Blocks. Toys For Kids.

Y Cynnig Gofal Plant i rai 3 a 4 oed

Gwneud cais am le ysgol, dyddiadau tymor ysgol, dalgylchoedd, sut i gysylltu ag ysgol ac cefnogaeth Anghenion Addysg Arbennig.

Cardiff Council dragon logo

Rydym yn darparu cyrsiau sy’n addas ar gyfer pob dysgwr o bob gallu yn Awdurdod Lleol Caerdydd.

Addysg Cyfrwng Cymraeg

Waeth beth yw eich iaith yn y cartref, gall Addysg Cyfrwng Cymraeg roi cyfleoedd, profiadau a sgiliau ychwanegol i’ch plant.

Dyma rai cwestiynau cyffredin a allai eich helpu chi i benderfynu a hoffech chi fanteisio ar yr hyn y mae Addysg Cyfrwng Cymraeg yn ei gynnig.

Cardiff Council dragon logo

Mudiad Meithrin

Mudiad gwirfoddol sy’n arbenigo ym maes gofal ac addysg blynyddoedd cynnar yw Mudiad Meithrin. Ein nod yw rhoi cyfle i bob plentyn ifanc yng Nghymru fanteisio ar wasanaethau a phrofiadau blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mudiad Meithrin Logo

Cymraeg I Blant

Gyda dros 65,000 o blant mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog yng Nghymru, pam mae rhieni yn ystyried y Gymraeg yn bwysig i’w plant?

Cymraeg for kids

RhAG

Rhieni dros Addysg Gymraeg

RhAG logo

Gellir dod o hyd i wybodaeth ychwanegol am Addysg a Hyfforddiant yng Nghaerdydd ar Dewis Cymru

Y Mynegai yw cofrestr wirfoddol Caerdydd ar gyfer plant a phobl ifanc ag anableddau neu anghenion ychwanegol.

Gellir dod o hyd i wybodaeth ychwanegol am Anableddau neu Anghenion Ychwanegol yng Nghaerdydd ar Dewis Cymru

Mae’r Gwasanaeth i Mewn i Waith yn cynnig cymorth cyflogaeth a digidol i unigolion sy’n chwilio am gyflogaeth neu sydd eisiau uwch-sgilio. Does dim angen i chi fod allan o waith i ddefnyddio’r gwasanaethau hyn.

Gellir dod o hyd i wybodaeth ychwanegol am Cyflogaeth yng Nghaerdydd ar Dewis Cymru

Mae’r wybodaeth hon yn cael ei datblygu.

Gellir dod o hyd i wybodaeth ychwanegol am Iechyd yng Nghaerdydd ar Dewis Cymru

Barnardos Gwasanaeth Lles Teuluol

Gweithgareddau a phethau i’w gwneud gartref

Family time - Young father using a laptop computer for work at home while looking after his son

Gellir dod o hyd i wybodaeth ychwanegol am Gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghaerdydd ar Dewis Cymru